Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o’i chefnogaeth i leoedd ar draws y DU.
Mae’r grant o dan y ddarpariaeth Pobl a Sgiliau ac mae ganddo ddau brif nod: cymorth cyflogaeth i bobl economaidd anweithgar (hawlwyr budd-daliadau a rhai nad ydynt yn hawlio budd-daliadau) ac ariannu darpariaeth sgiliau i ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen mewn bywyd a gwaith, gan gynnwys cefnogi ardaloedd lleol i ariannu anghenion sgiliau lleol.
Mae’r grant hwn yn targedu’r ymyriadau canlynol yn y Gronfa Ffyniant Gyffredin:
W40: Cyrsiau sgiliau gwyrdd sydd wedi’u targedu o gwmpas sicrhau bod gennym y gweithlu medrus i gyflawni uchelgeisiau sero net ac uchelgeisiau amgylcheddol ehangach y llywodraeth.
W41: Cymorth ailhyfforddi ac uwchsgilio ar gyfer y rheiny mewn sectorau carbon uchel, gyda ffocws penodol ar drosglwyddo i swyddi gwyrdd, a swyddi Diwydiant 4.0 a 5.0.
Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am gyllid i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 28 Chwefror 2024
Mae ffurflenni cais a chanllawiau ar gael yma.
Canllawiau ar Wneud Cais am Grant Pobl a Sgiliau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
Ffurflen Gais y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Dychwelwch eich ceisiadau i: BGCBC-SPF@blaenau-gwent.gov.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: BGCBC-SPF@blaenau-gwent.gov.uk