Ymunodd Jack Hayman o Blaenau ag Express Contract Drying (EDC) fel Prentis Beiriannydd Mecanyddol yn gweithio yn Stad Ddiwydiannol Rasa ym mis Gorffennaf 2018. Fe wnaeth hyn ei alluogi i barhau gydaāi astudiaethau coleg a chwblhau ei BTEC Lefel 2 mewn Gwaith Trydanol ac Electronig ac, yn fwy, diweddar, BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol. Roedd y cwmni mor falch oāi agwedd gadarnhaol at waith aāi ymroddiad i astudio fel eu bod yn awr wedi ei gyflogiān llawn-amser.
Drwy gydol y brentisiaeth, datblygodd Jack set sgiliau rhagorol ac adeiladu portffolio cryf o brofiadau yn cynnwys gweithio ar brosiectau byw i amserlenni penodol, ac maeān credu i hynny arwain at swydd barhaol yn EDC. Fe wnaeth y cwmni gefnogi Jack ar hyd y broses, gan annog ei addysg a hefyd ei helpu i gwblhau cymwysterau ategol megis cymhwyster mewn weldio.
Bu Aneluān Uchel Blaenau Gwent, a drefnodd y Brentisiaeth, yno iddo drwyār amser a dywedodd Jack:
āMae Aneluān Uchel fel tĆ®m o unigolion talentog a chyfeillgar wedi rhoi cymaint o hwb i fy ngyrfa. Er y gall y syniad o fynd i fyd gwaith godi ofn ar lawer o bobl, fy mhrofiad i yw pontio llyfn diolch i sut mae Aneluān Uchel wediāi drin. BĆ»m yn ffodus iawn i gael y cyfle hwn ac mae pobl fel Julie Robins (Mentor Aneluān Uchel) wedi bod yno ar ben arall y ffĆ“n neu neges i ddatrys fy mhroblemau. Pan oedd gen i broblemau nad oedd tiwtoriaid yn y Coleg neu waith yn fynd ar goll, cafodd ei ddatrys yn gyflym ac mewn modd proffesiynol felly diolch am hynny. Hefyd am yr ymarferion adeiladu tĆ®m, maent yn llaewr iawn o hwyl ac maeān braf cwrdd gyda phobl eraill oār un anian.
Rwyān credu fod y rhaglen yn effeithol iawn ac iār dim ar gyfer ein cymuned a seilwaith lleol. Efallai ryw ddydd y bydd gennyf fy mhrentis fy hun fydd yn dilyn yr un daith ag a wnes iā.
Maeār cynllun Prentisiaeth yn wirioneddol wedi gweithio i Jack fel canlyniad o roi popeth iāw waith a goresgyn nifer o broblemau personol. Mae cyfuniad o adroddiadau rhagorol gan y coleg a thasgau bywyd go iawn mewn ffatri weithredol wedi ei helpu i gyflawni ei botensial gyrfa. Ar un cam fe wnaeth hyd yn oed gymryd yr awenau a chynllunio bwrdd i gynorthwyo cynhyrchu, a fuān llwyddiannus iawn. Gwnaeth ansawdd a maint gwaith Jack argraff fawr iawn ar ei Asesydd NVQ.
Oherwydd ymrwymiad Jack drwy gydol ei brentisiaeth cafodd ei enwebu ar gyfer categori āSeren Newyddā yng Ngwobrau Uchel Aneluān Uchel. Er bod cystadleuaeth frwd o fewn y grŵp, cyflwynodd y beirniaid y teitl iddo gan gydnabod ei waith caled aāi botensial ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn y llwyddiant hwnnw, mae Jack yn ddiweddar wedi cael ei gyflogi yn EDC.
Mae pawb yn credu fod gan Jack ddyfodol disglair gyda EDC ac mae wedi profiān ased wirioneddol iddyn nhw a hefyd i raglen Rhannu Prentisiaeth Aneluān Uchel Blaenau Gwent.