Mae’r Cyngor wedi dynodi cyllid i gadw Llwybr Cebl Glynebwy ar agor.
Dywedodd y Cyng Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:
“Yn dilyn gwaith gan swyddogion Adran yr Amgylchedd, cafodd cyllid amgen ei ddynodi sy’n golygu y gallwn yn awr gadw’r Llwybr Cebl ar agor. Bydd datblygu’r cyllid amgen yn cadw’r ddolen ar agor i’r cyhoedd ac yn ei diogelu rhag pwysau cyllideb rheng flaen tra’n bod yn wynebu’r argyfwng cyllid presennol.
“Fel y dywedais rai wythnosau yn ôl, roedd cynghorwyr o’r ddau grwp gwleidyddol ym Mlaenau Gwent yn awyddus i gadw’r ddolen, ac roedd bob amser yn benderfyniad anodd i gau’r cyfleuster dros dro. Ond, fel yr esboniwyd yn flaenorol, rydym yn wynebu sefyllfa ariannol heriol iawn sydd wedi golygu penderfyniadau anodd am wasanaethau. Clywsom gan lawer o bobl sy’n defnyddio’r Llwybr Cebl i gyrraedd addysg, gwaith, hamdden a chyfleusterau lleol eraill, yn arbennig rai gyda phroblemau symudedd ac sy’n fregus. Bu eu hadborth yn hollbwysig wrth i ni weithio tuag at y datrysiad cadarnhaol hwn.â€