Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio mewn partneriaeth â City Energy Dinas a’r cyflenwr ynni EDF fel rhan o gynllun rhanbarthol gyda'r nod o wella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi trigolion tlotaf y fwrdeistref o ran tanwydd.
Bydd y cynllun ECO4 yn nodi eiddo domestig sydd angen mesurau gwella ynni. Bydd cartrefi cymwys perchnogion eiddo a thenantiaid sy'n rhentu'n breifat yn cael eu hôl-ffitio ag ystod o inswleiddio a nodweddion gwella defnydd ynni.
• Rydych chi’n derbyn cymorth lles, neu
• Mae incwm eich cartref o dan £31,000, neu
• Mae gennych gyflwr iechyd cymwys, e.e. cardiofasgwlaidd, anadlol, imiwnoataliedig neu symudedd cyfyngedig
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:
"Mae croeso mawr i'r cynllun partneriaeth hwn gan fod pris ynni wedi cynyddu'n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r argyfwng costau byw wedi gwthio mwy o deuluoedd i dlodi tanwydd. Bydd sicrhau bod cymorth ar gael i bobl sy'n byw mewn eiddo sydd â’r graddfeydd ynni isaf yn helpu i wella cynhesrwydd ac effeithlonrwydd ynni eu cartref, a gallai ddod â manteision iechyd a lles.
Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur, mae'r Cyngor yn cefnogi cynlluniau sy'n ymateb iddynt. Dylai'r cynllun hwn helpu i leihau allyriadau carbon cartrefi sy'n derbyn mesurau gwella.
I weld a ydych chi'n gymwys i gael cyllid, sganiwch y cod QR i gwblhau arolwg cyflym, cyflwyno eich cais a chymryd cam tuag at gartref mwy cynnes a chlyd!
Bydd y daflen isod y gellir ei lawrlwytho yn eich helpu i ddeall mwy am beth sydd ei angen.
ow will help you to further understand what is required.
![]() |
Trawsnewidiwch eich cartref gyda thaflen ECO4 (i’w lawrlwytho). |