Bydd Mynd yn Wyllt yn dychwelyd i Barc Bryn Bach, Tredegar ddydd Sadwrn 28 Mai 2022 rhwng 10am a 4pm.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Blaenau Gwent fel dathliad o raglen waith ‘Gwent Fwyaf Gydnerth’. Nod y rhaglen yw creu a gwella rhwydweithiau ecolegol cydnerth, gan ddarparu adnoddau naturiol a gaiff eu rheoli mewn dull cynaliadwy ac egwyddorion ar gyfer cymunedau i werthfawrogi eu tirluniau a bywyd gwyllt. Cefnogir y digwyddiad gan Gyngor Sir Fynwy yn cynrychioli Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, gwaddol Gwent Fwyaf Gydnerth.
Diolch yn fawr i Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Mynd yn Wyllt 2002 drwy raglen waith ‘Gwent Fwyaf Gydnerth’.
Mae Mynd yn Wyllt yn gyfle i ddatblygu’r gwaith prosiect llwyddiannus a gynhaliwyd ar draws ardal Gwent Fwyaf dan y rhaglen. Mae’r digwyddiad yn hollol rad ac am ddim ac yn addo llawer i’w weld a’i wneud ar gyfer yr holl deulu. Bydd cyfle i gwrdd creaduriaid gwyllt tebyg i dylluanod a dod i gysylltiad agos gyda gwenyn gyda chwch gwenyn arsylwi! Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys gweithdy ffotograffiaeth bywyd gwyllt (angen archebu), dweud straeon ac amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft gyda thema natur.
Ewch draw am ddiwrnod ‘gwyllt’ llawn hwyl i ddarganfod natur!
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Nadine Morgan (Ecolegydd) drwy e-bost yn: nadine.morgan@blaenau-gwent.gov.uk or call 01495 311556.
Ìý