¹û¶³´«Ã½app

Parod mewn pryd ar gyfer y Nadolig ar safle hanesyddol Gwaith Dur Glynebwy

Cartrefi cynaliadwy safon uchel yn rhan o brosiect adfywio £300m Y Gweithfeydd.

Cafodd y cyntaf o 56 cartref newydd ar ddatblygiad swmpus Northgate, sy’n rhan o brosiect adfywio £300m ar safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy eu trosglwyddo gan gwmni adeiladu Davies Homes, sydd â’i bencadlys ym Mhontypridd.

Mae Davies Homes yn falch iawn i gefnogi’r adfywio gyda’i ddatblygiad mwyaf cynaliadwy a chanolog hyd yma, gan barhau ei fuddsoddiad mewn datblygiadau tai tir llwyd cynaliadwy yn Ne Cymru.

Mae’r 56 cartref newydd, sy’n cynnwys tai fforddiadwy, yn sicrhau cydweithio cadarnhaol gyda landlord cymdeithasol cofrestredig lleol i ddod â’r cartrefi i Lynebwy. Dyma’r rhaglen tai gyntaf bwysig mewn adfywiad gan y sector cyhoeddus o hen safle gwaith dur Corus, dan arweiniad Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Mae cynaliadwyedd yn ffocws allweddol ar gyfer cartrefi Northgate a byddant yn effeithiol o ran ynni, gyda graddiad EPC A a bydd ganddynt hefyd baneli solar/PV a lle ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan.

Mae lleoliad canolog y cartref yn rhoi mynediad rhwydd a chynaliadwy i’r orsaf reilffordd a chanol y dref fydd yn cefnogi economi Glynebwy ac yn cynnig cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ragorol i breswylwyr.

Dywedodd Matthew Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Davies Homes:
“Bu’r cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar safle Northgate yn gadarnhaol iawn ac mae wedi ein galluogi i adeiladu’r cartrefi newydd gwych hyn yng Nglynebwy, gyda rhai ohonynt yn barod i symud iddynt ar gyfer y Nadolig. Mae’r bartneriaeth adeiladol gyda Blaenau Gwent wedi bod yn un gadarnhaol bob amser ac mae wedi rhoi cyfle i ni symud ymlaen gyda datblygiad preswyl arall ym Mlaenau Gwent. Galluogodd hyn i ni sicrhau cyllid gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i symud ymlaen gyda datblygiad preswyl cyffrous arall yn Ashvale, Tredegar.â€

Dywedodd y Cyng John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
“Mae’r datblygiad yn enghraifft wych o sut y gall gwaith partneriaeth fod o fudd i bobl, cymunedau a’r economi lleol. Bydd hyn yn darparu 56 o gartrefi fforddiadwy safon uchel ar y farchnad agored, sy’n flaenoriaeth allweddol gan y Cyngor. Bydd datblygiad newydd mor gyffrous yn helpu Blaenau Gwent i gwblhau rhan arall o’n huchelgais ehangach ar gyfer adfywio yn y fwrdeistref.â€

Cyngor Blaenau Gwent a Davies Homes yn Northgate Housing Development, ar safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy.