Cynhelir seremoni dadorchuddio Plac Porffor i anrhydeddu Minnie Pallister (1885-1960) - athro, ffeminydd, heddychwr, gwleidydd, newyddiadurwr a darlledwr - yn Neuadd y Farchnad Bryn-mawr ar 18 Medi am 6pm. Bydd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dadorchuddio’r plac.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:
"Mae'n hyfryd gweld Minnie yn cael ei chydnabod fel hyn gan ei bod hi’n rhan annatod o hanes y mudiadau llafur a heddychol. A hithau'n ffeminydd sosialaidd, eiriolodd ac ymgyrchodd yn feiddgar dros fyd gwell yn seiliedig ar y gwerthoedd hynny. Doedden nhw ddim bob amser yn ei gwneud hi'n boblogaidd ond roedd hi'n ddiwyro yn ei hymrwymiad i'r achosion hynny. Roedd y byd gwleidyddol bron yn gyfan gwbl wrywaidd bryd hynny felly mae’r ffaith iddi ddod yn unigolyn mor flaenllaw yn adrodd cyfrolau am ei nerth. Roedd ei blynyddoedd yma ym Mryn-mawr yn ffurfiannol a bydd yn cael ei chofio am byth gyda'r Plac Porffor hwn, teyrnged wirioneddol addas i ddynes ryfeddol. Dyma ein hail blac ym Mlaenau Gwent, yn dilyn Thora Silverthorn, a weithiodd fel nyrs yn y frwydr ryngwladol yn erbyn ffasgaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen."
Teithiodd Minnie, a aned yng Nghernyw, ledled gwledydd Prydain gyda'i theulu gan fod ei thad yn Weinidog Methodistaidd. Ymgartrefon nhw ym Mryn-mawr lle enillodd gymhwyster addysgu yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, a bu'n dysgu yn Ysgol Fabanod Gynradd Sir Bryn-mawr, neu’r ysgol fwrdd fel y’i gelwid rhwng 1906 a 1918. Trwy gydol y cyfnod hwn roedd hi’n cyfrannu’n weithredol at wleidyddiaeth ac fel heddychwr daeth yn ffigwr blaenllaw yn gwrthwynebu'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru - gwnaeth ei phresenoldeb a'i grym siarad cyhoeddus ei rhoi yn yr un categori â Sylvia Pankhurst. Ym 1915 disgrifiodd Keir Hardie hi fel seren newydd yn disgleirio ar y gorwel.
Gan godi trwy rengoedd y Blaid Lafur, daliodd Minnie lawer o swyddi ar lefel uchel iawn o ystyried cynrychiolaeth menywod ym myd gwleidyddol yr oes, megis: Llywydd Plaid Lafur Annibynnol Cymru (1920) ac Ymgeisydd Seneddol dros Bournemouth (1923).
Ar anterth ei gyrfa wleidyddol cafodd ei tharo'n wael gyda salwch a arweiniodd at flynyddoedd o eiddilwch parlysol. Fodd bynnag, o'i gwely hyfforddodd Minnie ei hun i fod yn newyddiadurwr gan sicrhau swyddi amlwg gyda’r Daily Mirror a'r Daily Herald (papur newydd mwyaf Prydain ar y pryd) cyn dod yn ddarlledwr gyda’r BBC.
Mae’r Placiau Porffor yn wobr sy'n cydnabod menywod hynod yng Nghymru a'r cyfraniad y maent wedi'i wneud i fywyd Cymru. Bydd y menywod hyn o Gymru wedi cael dylanwad yng Nghymru a thu hwnt. Efallai na fyddant wedi cael sylw haeddiannol o’r blaen, neu efallai eu bod wedi cael eu gadael allan o'r llyfrau hanes yn gyfan gwbl.
Meddai Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru:
"Mae Placiau Porffor yn grŵp gwirfoddol bach sy'n ymroddedig i gofio a dathlu Menywod Rhyfeddol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o godi ein 18fed Plac Porffor yng Nghymru ar gyfer Minnie Pallister ym Mryn-mawr lle bu'n byw am flynyddoedd lawer. Mae ei hanes rhyfeddol wedi dod i'r amlwg trwy ddiwydrwydd a phenderfyniad ei bywgraffydd Alun Burge ac ymrwymiad Cyngor Blaenau Gwent a Chymdeithas Hanes Lleol Bryn-mawr.
Mae stori Minnie yn ymwneud â menyw hynod ddewr a deallus a oedd yn barod i roi ei bywyd i ymladd dros yr achosion yr oedd hi'n credu ynddynt. Roedd hi'n ddi-ofn ac yn gwbl ddyfal yn hyrwyddo ffeministiaeth a chydraddoldeb ar adeg pan nad oedd y rhain yn y brif ffrwd.
Mae codi Plac Porffor yn ffordd o ddathlu a rhoi clod hir-ddisgwyliedig i'r fenyw ryfeddol hon a chydnabod yr hyn yr oedd hi'n sefyll drosto."
I ddathlu'r achlysur ymhellach, bydd lansiad llyfr swyddogol yn Amgueddfa Bryn-mawr - ‘Minnie Pallister: The Voice of a Rebel’ gan Alun Burge - hanes diddorol ei bywyd dewr. Dywedodd yr awdur Alun Burge, 'Gyda'r bywgraffiad hwn, mae Minnie Pallister bellach yn cael ei hadfer i'w lle priodol yn hanes Blaenau Gwent a Chymru a gellir cydnabod ei chyfraniad at y mudiadau llafur a menywod yn llawn. Bydd yna hefyd furlun. Cefnogir dadorchuddiad y plac a'r murlun gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Bydd yna hefyd ddarlith i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas Hanes Bryn-mawr yng Nghlwb Cymdeithasol Bryn-mawr am 7pm. Daethpwyd â llawer o'r gweithgareddau at ei gilydd gan y diweddar Mr Eifion Lloyd Davies a fu farw yn drist iawn yn y gwanwyn.