Mae Jacob Marshall, sydd ar hyn o bryd yn Brentis-Beiriannydd yn Anelu’n Uchel Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn y categori 'Talent Yfory'.
Wedi creu argraff ar ei gyflogwr a'i asesydd gyda'i sgiliau a'i safon uchel o waith, mae gan Jacob, 20 o Bontypridd, ddyfodol disglair mewn peirianneg fecanyddol. Mae’n cael ei gyflogi gan Combined Engineering Services (CES) ar hyn o bryd, cwmni peirianneg a dylunio ym Mrynmawr mewn partneriaeth ag Anelu’n Uchel Blaenau Gwent.
Dywedodd Jacob:
"Rydw i mor falch o gyrraedd rowndiau terfynol y wobr hon, mae'n teimlo bod fy holl waith caled ac ymroddiad wedi cael eu cydnabod ac mae hynny'n golygu llawer i mi. Roeddwn yn falch iawn gydag ymateb fy nheulu gan fod y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad mawreddog ac rwy'n edrych ymlaen at ei brofi gyda fy nheulu wrth fy ochr. Rwy'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i'm gwir alwedigaeth ac rwy'n edrych ymlaen at yrfa hir a llwyddiannus fel Peiriannydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi drwy fy nhaith gydag Anelu’n Uchel Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a’r Gwasanaethau Peirianneg Cyfunol".
Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Ngwesty'r Celtic Manor ddydd Gwener 22 Mawrth 2024 ac mae'n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar draws 9 categori gwahanol.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at Raglenni Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru ledled Cymru.
Sefydlwyd Anelu’n Uchel yn 2015 ac mae'r Tîm yn arbenigo mewn darparu prentisiaid i fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg De-ddwyrain Cymru. Hyd yma, mae ganddynt record drawiadol o 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy'r rhaglen ar ôl cwblhau eu prentisiaeth. Mae’r tîm Anelu’n Uchel eisoes wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad rhagorol a'u record gyda phrentisiaethau yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2019 a 2021 lle enillon nhw yn y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.
Os ydych chi'n fusnes gweithgynhyrchu a pheirianneg yn Ne-Ddwyrain Cymru, yn ardal Blaenau Gwent neu Ferthyr, ac yn ystyried cyflogi prentis, cysylltwch ag Anelu’n Uchel ar 01495 355508 neu e-bostiwch: sap@blaenau-gwent.gov.uk
Y Prentis-Beiriannydd, Jacob Marshall, yn y cwmni dylunio a pheirianneg Combined Engineering Services ym Mrynmawr. |