¹û¶³´«Ã½app

Ramblers Cymru yn cipio calonnau tair cymuned ar draws de-ddwyrain Cymru

Bydd prosiect llwybrau i Lesiant blaenllaw Ramblers Cymru yn gweithio gyda chymunedau yn Grosmont, Maendee a Pharc Six Bells i helpu pobl i fwynhau cerdded a gwella eu mannau gwyrdd lleol.
 
O'r 70 o gymunedau ledled Cymru a wnaeth gais i fod yn rhan o'r prosiect £1.2m hwn, dewiswyd 18 ar draws Cymru. Bydd y cymunedau hyn a ddewisir yn ne-ddwyrain Cymru yn derbyn cymorth, offer a hyfforddiant i helpu i wella llwybrau a natur leol.
 
Mae Llwybrau i Lesiant yn brosiect a arweinir gan y gymuned a thrwy gydol mis Hydref, cynhaliodd y swyddogion rhanbarthol ddigwyddiadau ymgynghori i wrando ar leisiau pobl leol a chael gwybod mwy am anghenion pob cymuned. 
 
Dywedodd Dewi Lloyd, Swyddog Prosiect Llwybrau i Lesiant De-ddwyrain Cymru:

"Mae gan bob un o'r cymunedau y byddwn yn gweithio yn eu nodweddion a'i hanes unigryw ei hun. 
 
"Mae Grosmont yn bentref prydferth ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a safle castell Normanaidd enwog. Wedi'i hamgylchynu gan dir fferm, bu trigolion y pentref yn cynnal arolwg o 119.89km o lwybrau yn y pentref ac o'i amgylch, gan weithio gyda Ramblers Cymru ar brosiect "Mark my Paths". Mae'r gymuned yn gyffrous iawn i fod yn rhan o’r prosiect, lle maent yn cymryd rheolaeth dros wneud eu cymuned yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch.
 
"O'r 18 cymuned a ddewiswyd ledled Cymru, Maendee yw'r mwyaf trefol o'r prosiect cyfan. Mae Maindee yn faestref ganol dinas Casnewydd ac mae wrth ymyl Afon Wysg. Nid yn unig y mae'r ardal yn llawn amrywiaeth eang o deithiau cerdded, ond gyda 40+ o ieithoedd yn cael eu siarad yn Ysgol Gynradd Maendee, mae hefyd yn un o'r cymunedau mwyaf amrywiol y byddwn yn gweithio yn ei maes.
 
"Fel llawer o'r cymoedd, mae Six Bells yn bentref sydd â threftadaeth ddiwydiannol gref. Mae hefyd yn gartref i eglwys hynafol Sant Illtyd sy'n dyddio i tua'r 9fed  neu'r 10fed ganrif a dyma'r adeilad hynaf ym Mlaenau Gwent. Nid oes prinder harddwch yn yr ardal ychwaith, gyda choetiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig golygfeydd gwych i'r cymoedd isod.
 
"Er gwaethaf natur unigryw'r dirwedd ac un peth a oedd wir yn sefyll allan am y cymunedau hyn oedd angerdd pob un i wella llwybrau a natur yn eu hardal leol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw i wella a sefydlu llwybrau newydd a chael hyd yn oed mwy o aelodau o'r gymuned i gymryd rhan."
 
Yn y cais i ymuno â'r prosiect, dywedodd Caroline Williams sy'n dod o gymuned Maendee:

"Er nad yw'n draddodiadol meddwl am Maendee fel lle cerdded, credwn ei bod yn arbennig o bwysig bod pobl yn yr amgylchedd trefol hwn efo’r gallu i fynd allan. Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i gyflwyno cerdded o amgylch Maendee fel profiad diddorol, diogel a bob dydd i bawb."
 
Drwy ymuno â'r prosiect, bydd pobl leol yn gallu dysgu sgiliau newydd i helpu i wneud eu cymuned yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch i bawb, i helpu i drawsnewid mynediad i rai o'r llwybrau yn ne-ddwyrain Cymru.
 
Bydd Ramblers Cymru yn gweithio ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Natur Cymru a Choed Cadw, Yr Ymddiriedolaeth Coetiroedd yng Nghymru, gyda rhan allweddol o'r prosiect yn canolbwyntio ar wella natur. Bydd gwirfoddolwyr yn gwneud eu hardal leol yn wyrddach i fyd natur ffynnu, a bydd yn gyfle gwych i'r gymuned ddod at ei gilydd.
 
Gyda gweithgareddau fel plannu coed, hau blodau gwyllt a diwrnodau gweithgareddau bywyd gwyllt, mae rhywbeth i bob oedran a chefndir gymryd rhan ynddo.
 
Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
 
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth a chymryd rhan, ewch i: www.ramblers.org.uk/llwybrauilesiant