Mae wyth prosiect cymunedol ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Chaerffili wedi bod yn llwyddiannus wrth gael arian i helpu i leihau anghydraddoldeb a dod â chymunedau ynghyd.
Ìý
Mae’r Grantiau Cydlyniad Cymunedol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi eu cynllunio i gefnogi cynlluniau sy’n hyrwyddo dealltwriaeth a pharch rhwng grwpiau gwahanol o bobl ac yn creu cyfleoedd i bobl o bob cefndir uno.
Un o’r prosiectau a fydd yn derbyn £2000 yw Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown sy’n bwriadu creu rhandir i gynnig cyfleoedd addysg a hyfforddiant pellach.
Caiff yr arian ei wario ar helpu cynllun Willows Wonderful Big Bocs Bwyd yr ysgol ynghyd a chynnal gweithdai coginio i rieni / gofalwyr i annog bwyta iach gartref.
Dywedodd Swyddog Ymgysylltiad Teuluol a Dysgu, Rebecca Hughes o Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown:
"Rydym yn falch iawn o dderbyn cefnogaeth ar gyfer ein prosiect Willows Wonderful Big Bocs Bwyd project. Bydd yr arian yn galluogi’n hysgol i greu ein rhandir ein hunain ynghyd â hyrwyddo a chefnogi teuluoedd a chymunedau ysgol ehangach i fyw bywyd iach.
Ymhlith y prosiectau eraill sydd wedi derbyn arian yn y rhanbarth mae:
- Ysgolion ACT – i feithrin cysylltiadau a rhyngweithio ystyrlon rhwng disgyblion ac aelodau hÅ·n y gymuned.Ìý
- Amgueddfa Torfaen Museum – cynlluniau i weithio gyda disgyblion Sipsiwn a Theithwyr yn Ysgol Gorllewin Mynwy i greu arddangosfa Tu Fewn Tu Allan.ÌýÌý
- Cole Court – i greu clwb cinio i’r rheiny a allai fod yn teimlo’n unig ac sy’n wynebu anhawster ariannol.Ìý
- Caffi Dementia – sesiynau cynhwysol i drigolion, gofalwyr a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan Dementia.
- Cyfeillion Parc Morgan Jones – hwyluso cyfleoedd gwirfoddoli i’r rheiny sydd â symudedd cyfyngedig.
- Ysgol Sant Martin – i’r ysgol gyfan ymgysylltu â’r gymuned yn yr eglwys leol mewn digwyddiadau amrywiol.ÌýÌý
- Valley Daffodils – sesiwn cynhwysol pob wythnos i bawb sydd ag anabledd a/neu anghenion dysgu ychwanegol.
Dywedodd Christopher Hunt, sy’n arwain y Tîm Cydlyniad Cymunedol Rhanbarthol yng ngorllewin Gwent: “Rydym wrth ein bodd o fod yn rhannu manylion am y prosiectau anhygoel yma i gyd sydd wedi bod yn llwyddiannus.
"Mae hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol arall o brosiectau’n ceisio, a hoffem ddiolch i’r grwpiau cymunedol i gyd a gyflwynodd cais ar gyfer eu prosiectau.â€