Mae Cymru â'i golygfeydd godidog a'i rhwydwaith ffyrdd amrywiol yn denu beicwyr modur o bell ac agos. Yn yr wythnosau nesaf gallwn ddisgwyl gweld llawer mwy o feicwyr modur yn defnyddio'r ffyrdd at ddibenion hamdden neu i gymudo yn ystod y gwanwyn.
Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, “Er bod ffyrdd Cymru ymysg y rhai mwyaf diogel yn y byd, mae beiciwr modur 50 gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad na pherson sy'n teithio mewn car. Felly, mae lleihau nifer y beicwyr modur sy'n cael eu hanafu neu eu lladd yng Nghymru yn dal yn flaenoriaeth.
“Er mwyn mynd i'r afael â'r risg anghymesur yma, gofynnwn i feicwyr modur reidio'n ofalus tu hwnt ac o fewn y gyfraith bob amser. Gall gyrwyr chwarae eu rhan drwy gymryd mwy o bwyll wrth gadw llygaid allan am yrwyr modur, yn arbennig wrth adael cyffyrdd, newid lôn neu wrth agor eu drysau - efallai na fydd beic modur mor weladwy â cherbydau mwy o faint a gallant fod yn y lle rydych yn bwriadu symud iddo.
“Dylech edrych yn ofalus yn eich man dall bob amser ac edrych ddwywaith am feiciau modur.â€
Er bod y mwyafrif llethol o feicwyr modur yn dangos safon da wrth reidio, mae lleiafrif bach yn dewis defnyddio'r ffyrdd mewn ffordd anghyfrifol, gan beri risg diangen iddyn nhw eu hunain ac i ddefnyddwyr eraill. Bydd heddluoedd ledled Cymru yn targedu'r unigolion hyn yn ystod y misoedd nesaf, gan roi neges glir na chaiff ymddygiad reidio gwael na gwrthgymdeithasol eu goddef.
Ychwanegodd Teresa Ciano, “Gall hyd yn oed y beiciwr modur fwyaf profiadol gael budd o gymryd rhan mewn hyfforddiant ar ôl eu prawf neu gael asesiad o'u reidio. Rydym felly yn annog beicwyr modur i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru - nifer ohonynt wedi'u hariannu gan Lywodraeth Cymru - er mwyn gwella eu sgiliau reidio a'u gwybodaeth.â€
“Mae paratoi cyn pob taith yn allweddol i'ch diogelwch ac mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd eich beic modur wedi bod yn y garej dros fisoedd y gaeaf. Archwiliwch eich offer a'ch beic yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr bod popeth yn gweithio'n iawn, gan dalu sylw arbennig i gyflwr eich teiars, breciau a goleuadau - gallai achub eich bywyd. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi paratoi'n drylwyr; peidiwch byth â reidio pan fyddwch yn ddig, neu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.â€
Mae partneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru yn rhannu'r un nod – bod trigolion ac ymwelwyr a ddaw i Gymru yn defnyddio'r ffyrdd yn gyfrifol ac yn cyrraedd adref yn ddiogel.