¹û¶³´«Ã½app

Sgam Taliad £150 Cymorth Costau Byw

Mae Swyddogion Safonau Masnach ym Mlaenau Gwent yn rhybuddio’r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth rhag sgam ffôn yn ymwneud â’r taliad cymorth costau byw.

Mae’r sgamwyr yn hawlio bod yn gysylltiedig gyda’r cyngor ac yn esbonio fod ad-daliad yn ddyledus. Maent wedyn yn gofyn am eich manylion banc er mwyn gwneud y taliad o £150. Mae pobl sydd wedi dioddef o’r sgam yn dweud y tynnwyd symiau mawr o arian o’u cyfrifon yn dilyn y galwad. Mae’r sgam hefyd wedi ei anfon drwy e-bost ac fel neges testun.

NI fyddwn yn ffonio/anfon neges testun/anfon e-bost yn gofyn am eich manylion banc ynghylch y taliad hwn. Os ydych yn talu eich Treth Gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol ni fydd angen i chi wneud dim a byddwch yn derbyn taliad yn awtomatig i’ch cyfrif banc dros yr wythnos nesaf.

Os talwch eich Treth Gyngor drwy unrhyw ddull arall, anfonir llythyr gyda chod unigryw atoch yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer y taliad. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru fer ar-lein i’n galluogi i wneud taliad i’ch cyfrif banc. Ni fedrwch lenwi’r ffurflen gofrestru nes byddwch wedi derbyn eich llythyr. Byddwn yn dechrau anfon llythyrau dros yr wythnos nesaf a byddwn yn eich hysbysu am y sefyllfa ddiweddaraf drwy ein sianeli swyddogol. Gofynnir i chi gadw eich hysbysiad Treth Gyngor yn ddiogel gan y byddwch ei angen i gofrestru.