Mae dyn o Cwm, y credir ei fod yn un o’r cyn-lowyr hynaf ym Mhrydain – os nad yr hynaf – wedi dathlu ei ben-blwydd yn 102 oed.
Dywedodd yr arwr lleol Ronald ‘Ginger’ Parsons pe byddai’n “cau ei lygaid yfory”, ei fod wedi cael bywyd bendigedig, wedi bod yn wirioneddol hapus ac erioed wedi gwneud gelyn!
Siaradodd Ginger tra’r oedd yn ymweld ag Amgueddfa Blaenau Gwent yn Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy lle mae arddangosfa ar hyn o bryd yn dweud stori trychineb yng Nglofa Marine, Cwm, a laddodd 52 o ddynion ar Ddydd Gŵyl Dewi 1927. Yn rhy ifanc i gofio’r drychineb yn iawn, mae Ginger yn cofio cael ei gario lawr i safle’r lofa ar ysgwyddau ei dad i ganfod beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw. Digwyddodd y ffrwydrad yng ngwaith y Sêm Ddu am 12.50am ac roedd yn newyddion cenedlaethol.
Dechreuodd Ginger weithio ‘ar y ddaear’ yng Nglofa Marine pan oedd yn ddim ond 13 mlynedd a 10 mis oed. Pan oedd yn ddigon hen i fynd dan ddaear yn 14, dywedwyd wrtho ei fod yn rhy fach, a’i ymateb oedd, ‘Dydych chi ddim fawr mwy na fi a rydych chi yn rheolwr’, yr ymateb oedd ‘tyrd i ddechrau ddydd lun’.
Yn dilyn hynny bu Ginger yn gweithio am 47 mlynedd dan ddaear, gan osgoi nifer o ddamweiniau ei hun. Yng nghanol y 1970au bu bron iddo gael ei ladd gan gwymp trwm a wnaeth ddal a gwahanu Ginger oddi wrth ei dîm. Ar ôl dweud wrtho am adael oherwydd y perygl, aeth ei grwt fel y galwai ef Christopher ‘Bamba’ Williams gydag eraill i dyrchu Ginger allan a dod ag ef i ddiogelwch, wedi anafu’n ddifrifol ond yn dal yn fyw. Ni wnaeth hynny ei rwystro bodd bynnag ac roedd yn ôl dan ddaear yn fuan.
Treuliodd George ychydig flynyddoedd olaf ei fywyd gwaith ar y ddaear yn y lolfa, ond pan gafodd gynnig swydd rheoli, dywedodd ‘cadwch chi y bensel, fe gadwa fi fy rhaw!’
Rhoddodd y gorau i’r rhaw yn 65 oed.
Cafodd Ginger ei eni, neu ei ‘lansio’ yn ôl ei fab, gartref yn Oak Street, Cwm, Blaenau Gwent yn 1922 ac mae’n dal i fyw yn y pentref heddiw. Mae’n adnabyddus iawn i’r bobl sy’n byw yno ac yn gymeriad lleol poblogaidd. Roedd Ginger yn briod a chafodd bump o blant, tri mab a dwy ferch. Mae’n dal yn hoff o fynd am beint i’r tafarndai lleol ac yn mwynhau dweud jôc neu ddwy.
Yn hoff iawn o ganu, dywed Ginger mai ef oedd y person cyntaf yn Cwm i fod yn berchen microffon ac roedd yr holl dafarndai yn awyddus iddo ganu yno. Ei hoff gân oedd ‘South of the Border Down Mexico Way’, ac mae’n dal i fedru ei chanu gydag arddeliad heddiw.
Pan ofynnwyd iddo am y gyfrinach i’w henaint hynod, ateb Ginger oedd synnwyr disgrifiwch da a bod yn hapus bob amser. ‘Sa’i erioed wedi gwneud gelyn’, meddai. ‘Ar hyd fy oes, hyd yn oed y gwaith, rydw i bob amser wedi tynnu mlaen gyda phawb a bod yn hapus.!’
Mae’r cynghorwyr lleol George Humphries a Derrick Bevan yn adnabod Ginger yn dda ac yn dweud ei fod yn gymeriad go iawn, ac mae’n debyg na fyddant yn gweld neb tebyg iddo eto.
Dywedodd: “Pe byddai’r byd yn llawn o bobl fel Ginger Parsons, am le gwych fyddai hynny! Dyn diwyd, anrhydeddus, heddychlon a doniol. Ein harwr Ginger Parsons!”
Dathlodd Ginger ei ben-blwydd ddydd Sul gyda phryd o fwyd gyda theulu a ffrindiau – a pheint neu ddau mae’n debyg!
Mae Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy yn Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy ac ar agor rhwng 12am-1pm ar ddyddiau Llun i Gwener. Mae’n archif arbennig ar gyfer y cyn waith dur ac yn seiliedig yng nghyn bencadlys y gwaith dur. Mae Swyddfa Gyffredinol, Glynebwy yn adeilad rhestredig gradd II ac yn un o’r safleoedd swyddfa diwydiannol prin sydd wedi goroesi mewn cyflwr da. Mae gan yr amgueddfa gasgliad unigryw o eitemau a dogfennau yn adrodd hanes gwneud haearn a dur yng Nglynebwy sy’n cynnwys y glofeydd oedd yn eiddo Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy.