¹û¶³´«Ã½app

Tîm Cyllid a Thechnegydd Cyfrifon Cyngor Blaenau Gwent yn cyrraedd Rownd Derfynol Gwobrau Cyfrifeg Cymru

Mae Gwobrau Cyllid Cymru 2022 wedi rhoi Tîm Cyfalaf/Taliadau Cyngor Blaenau Gwent, dan arweiniad Joanne Watts, yng nghategori Tîm Cyllid Bach y Flwyddyn a’r Swyddog Cyllid, Jordan Harley, yng nghategori Technegydd Cyfrifon y Flwyddyn. Cynhelir y seremoni swmpus yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ddydd Gwener 24 Mehefin 2022.

Mae Gwobrau Cyllid Cymru yn arddangos llwyddiannau’r sector cyllid sy’n tyfu’n gyflym yng Nghymru ac yn dathlu’r unigolion a’r cwmnïau hynny a ddangosodd dalent eithriadol ym mhob rhan o’r proffesiwn cyllid yng Nghymru. Mae’r Gwobrau yn cydnabod pawb o Gyfarwyddwyr Cyllid i Brif Swyddogion Ariannol a’r genhedlaeth nesaf o brentisiaethau a graddedigion.

Jordan, a enillodd Wobr Technegydd Cyfrifon 2021, oedd gweithiwr cyntaf y Cyngor i ennill y teitl a chafodd ei gydnabod unwaith eto am ei dalentau eithriadol ym maes cyfrifeg.

Dywedodd Jordan:
“Mae cyrraedd rownd derfynol y gwobrau pwysig hyn am yr ail waith yn fwy nag y byddwn wedi gobeithio amdano. Hoffwn ddiolch i Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a roddodd gyfle Prentisiaeth i mi gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, fy nghydweithwyr a thiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd. Fy uchelgais yw dod yn Gyfrifydd Siartredig ac mae cyrraedd y rownd derfynol unwaith eto yn teimlo fel cam arall yn nes at gyflawni fy mreuddwyd.â€

Mae Joanne, Partner Busnes ac Arweinydd y Tîm Cyllid, gyda’i thîm o saith o staff hefyd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth alluog iawn. Hefyd yn y categori mae Markes International Cyf., FEI Foods Cyf., Vistal Retail Support ynghyd â thimau ariannol sefydledig eraill.

Dywedodd Joanne:
“Rwy’n falch iawn fod fy nhîm ar y rhestr fer ar gyfer gwobr mor bwysig. Rydym wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i gadw’r safon uchaf posibl. Mae cael fy nghydnabod ar y lefel hon yn dyst i ymroddiad a phroffesiynoldeb y tîm ac yn dangos y gallwn gystadlu gyda’r goreuon yng Nghymru.â€

Llongyfarchiadau i Jordan a’r Tîm Cyfalaf/Taliadau a’r dymuniadau gorau oll ar gyfer y noson wobrwyo.

Ìý
Jordan Harley, Technegydd Cyfrif yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Ìý Llongyfarchiadau i Jordan a’r Tîm Cyfalaf/Taliadau a’r dymuniadau gorau oll ar gyfer y noson wobrwyo.