Caiff deddfau newydd eu cyflwyno yng Nghymru cyn hir i wneud mwy o leoedd yn ddi-fwg.
Mae’r deddfau yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru ar 1 Mawrth yn adeiladu ar y gwaharddiad ysmygu a gyflwynwyd yn 2007 a byddant yn diogelu mwy o bobl rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law a’r rhai sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi.
Bydd yn golygu y bydd tiroedd ysgol a meysydd chwarae cyhoeddus, yn ogystal ag ardaloedd awyr agored mewn safleoedd gofal dydd a gwarchod plant a thiroedd ysbyty yn ddi-fwg. Gallai unrhyw un a ganfyddir yn torri’r gyfraith wynebu o £100.
Cymru yw’r rhan gyntaf o’r Deyrnas Unedig i wahardd ysmygu yn yr ardaloedd hyn fydd yn dadnormaleiddio ysmygu ac yn gostwng y cyfleoedd y bydd plant a phobl ifanc yn dechrau ysmygu yn y lle cyntaf – gan achub bywydau yn y pendraw.
Dywedodd y Cyng Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent dros yr Amgylchedd:
“Gwyddom y niwed y gall ysmygu ei wneud i iechyd, felly rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r deddfau hyn yng Nghymru. Gobeithio y byddwn yn cael cefnogaeth y rhai sy’n ymweld â’n meysydd chwarae a’r staff, rhieni, gwarcheidwaid ac ymwelwyr sy’n defnyddio ein hysgolion a safleoedd gofal plant i sicrhau fel ein bod i gyd yn chwarae ein rhan mewn adeiladu dyfodol iachach.â€
Cafodd llawer o ysmygwyr eisoes eu cymell i roi’r gorau i ysmygu oherwydd pandemig COVID-19 a gobeithir y bydd y ddeddfwriaeth newydd yma yn annog hyd yn oed mwy i wneud hynny. Rhoi’r gorau gyda chymorth sy’n rhoi’r cyfle gorau i roi’r gorau am ysmygu am byth.
Dywedodd Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Cymru, sefydliad gyda chenhadaeth i sicrhau Cymru ddi-fwg:
“Mae’r rhai sydd yn dechrau ysmygu cyn iddynt fod yn 16 oed ddwywaith mor debyg o barhau i ysmygu na’r rhai sy’n dechrau pan maent yn hŷn a’u bod felly yn fwy tebygol i ddod yn ysmygwyr trymach.Gwyddom o arolwg diweddaraf ASH Cymru YouGov fod 81% o’r oedolion sy’n ysmygu yng Nghymru yn 18 oed neu iau pan gawsant eu sigarét gyntaf. Mae’n hanfodol ein bod yn atal pobl ifanc heddiw rhag dod y genhedlaeth nesaf o ysmygwyr.
“Gobeithiwn y bydd y ddeddfwriaeth yma hefyd yn paratoi’r ffordd i fwy o ardaloedd cyhoeddus yng Nghymru i fynd yn ddi-fwg.â€
Gall y rhai sy’n dymuno cael help i roi’r gorau i ysmygu gael mynediad i wasanaeth cymorth rhad ac am ddim Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219 neu edrych ar www.helpafiistopio.cymru i gael help a chefnogaeth, yn cynnwys mynediad i feddyginiaeth rad ac am ddim i roi’r gorau i ysmygu.