Diolch i chi am eich diddordeb mewn cymryd rhan yn ein treial gwefru Cerbydau Trydan ar y stryd. Cawsom nifer sylweddol o geisiadau ‘datganiadau buddiant’ gan aelwydydd ar draws y fwrdeistref sy’n dymuno cymryd rhan y rydym yn awr wedi cau’r ffurflen datganiad diddordeb.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu faterion o gonsyrn, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni yn: EVCharging@blaenau-gwent.gov.uk
___________________________________________________________
Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn cynnal treial bach ledled y fwrdeistref yn fuan i ganfod y datrysiadau mwyaf addas i bobl wefru cerbydau trydan yn ymyl eu cartrefi. Yn amodol ar gyllid, bydd y treial yn cynnwys nifer o opsiynau posibl a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gwefru trydanol diogel ar y stryd ar gyfer cartrefi sydd heb leoedd parcio oddi ar y stryd, gan na chaniateir llusgo ceblau i wefru cerbydau.
Mae nifer fawr o gwmnïau yn cynnig datrysiadau i’r broblem o wefru ar y stryd, rhai yn cynnwys datrysiadau gwli a gwefrwyr blaengar y gellir eu gosod mewn troedffyrdd. Mae’r Cyngor wrthi’n ymchwilio pob opsiwn i benderfynu beth fydd yn gweithio orau i ni ym Mlaenau Gewnt.
Os hoffech gofrestru eich diddordeb ac efallai gymryd rhan mewn treial yn y dyfodol, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at: EVCharging@Blaenau-Gwent.gov.uk a chynnwys eich cyfeiriad a pham yr hoffech gymryd rhan.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.