Yr wythnos nesaf bydd WeCare Wales yn taflu goleuni ar sut beth yw gweithio yn y sectorau gofal cymdeithasol, plant a blynyddoedd cynnar.
Ìý
Mae’r pandemig Covid-19 wedi cynyddu’n gyflym y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol ac mae angen staff newydd i gynorthwyo dinasyddion ledled Gwent.
Ìý
Drwy gydol Wythnos Gofalwn Cymru, bydd nifer o ddigwyddiadau rhithwir i gynorthwyo’r sawl sy’n chwilio am swyddi gyda diddordeb mewn gyrfa mewn gofal, gyda’r cyfle i gysylltu gyda chyflogwyr lleol a swyddi gwag sy’n agos atoch chi.
Os hoffech gael gwybod mwy am weithio mewn gofal cymdeithasol, ynghyd â swyddi gwag presennol yn eich ardal leol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Gofalwn Cymru ar Instagram, Facebook a Twitter a chael y newyddion diweddaraf am Wythnos Gofalwn Cymru #WeCareWalesWeek.
Ìý
Gallwch hefyd fynd i borth swyddi Gofalwn Cymru i weld y swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd: Swyddi - Gofalwn neu edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol. https://gofalwn.cymru/swyddi/?_ga=2.219554585.1600524809.1633679427-585781038.1633679427