¹û¶³´«Ã½app

Y Cyngor yn dal tipwyr anghyfreithlon wrthi drwy gymorth teledu cylch cyfyng

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn parhau i fod yn llym ar dipwyr anghyfreithlon, gan gyhoeddi cyfanswm o £14,000 o hysbysiadau cosb benodedig i 35 o droseddwyr ers mis Chwefror.

Mae pum achos arall hefyd yn cael eu dilyn drwy'r llys am droseddau gan gynnwys tipio anghyfreithlon, caniatáu i wastraff ddianc o gerbyd a methu â chydymffurfio â dyletswydd gofal masnachol.

Mae dros 20 o droseddau tipio anghyfreithlon wedi cael eu dal gan ddefnyddio offer cadw gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng pwrpasol.

Dywed yr Aelod Gweithredol dros Leoedd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham, y dylai hyn fod yn rhybudd gwirioneddol i’r rhai sy’n meddwl am gyflawni tipio anghyfreithlon, a hefyd i’r rhai sy’n talu am gael gwared ar wastraff y dylent wneud yn siŵr bod y busnes neu’r unigolyn sy’n cael gwared â’r gwastraff yn gludwr gwastraff cofrestredig a'i fod yn mynd ag ef i gyfleuster rheoli gwastraff trwyddedig.

Dywedodd y Cynghorydd Cunningham:

“Mae tipio anghyfreithlon yn difrodi ein tirwedd hardd a threfi yma ym Mlaenau Gwent. Mae cynnal amgylchedd glân a diogel yn brif flaenoriaeth i’r cyngor newydd, a bydd ein timau gorfodi ymroddedig yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siŵr ein bod yn dal ac yn cosbi’r lleiafrif sy’n gyfrifol. Mae CCTV yn arf gwerthfawr wrth ddal a chasglu tystiolaeth a dylai hyn fod yn rhybudd clir i unrhyw un sy'n ystyried cyflawni'r drosedd hon ein bod yn monitro mannau problemus hysbys a meysydd o bryder a adroddwyd i ni gan aelodau'r cyhoedd.

“Nid oes unrhyw esgus dros ddympio gwastraff yn anghyfreithlon, a byddwn yn parhau i fod ag ymagwedd dim goddefgarwch. Lle gallwn sicrhau tystiolaeth byddwn bob amser yn mynd ar drywydd erlyniad yn y llys neu Hysbysiad Cosb Benodedig ar gyfer y rhai sy'n gyfrifol. Mae hefyd yn bwysig os ydych yn talu i gael gwared ar wastraff eich bod yn gwneud y gwiriadau angenrheidiol i sicrhau bod y person yn gweithredu’n gyfreithlon oherwydd os caiff y gwastraff ei ddympio yna yn anffodus fe allech chi fod yn talu’r pris eich hun!â€

Ìý