Mae cynghorwyr yng Nghyngor Blaenau Gwent wedi cymeradwyo Fframwaith Sero Net 2050 newydd, sy'n nodi sut y gallai symud ymlaen a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i leihau allyriadau carbon Blaenau Gwent a chyflawni Sero Net erbyn 2050.
Mae Fframwaith Sero Net 2050 yn cynnig trosolwg lefel uchel o beth sydd angen ei wneud er mwyn i Flaenau Gwent gyflawni Sero Net. Mae'r fframwaith yn cwmpasu’r holl allyriadau carbon ym Mlaenau Gwent, gan gynnwys o gartrefi, busnesau a thrafnidiaeth. Er bod llawer o'r allyriadau hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cyngor ac y bydd angen newidiadau ar lefel genedlaethol hefyd, mae'r fframwaith yn bwysig o ran rhoi dealltwriaeth i'r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid o'r llwybr i Sero Net i Flaenau Gwent.
Mae'r Fframwaith wedi'i strwythuro o amgylch pedair thema: ynni, tai, natur a thrafnidiaeth. Mae'r themâu hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent, 44 o drigolion Blaenau Gwent a gyfarfu ar-lein ym mis Mawrth 2021 am 23 awr i drafod y cwestiwn 'sut allwn ni fynd i'r afael â newid hinsawdd ym Mlaenau Gwent mewn ffordd sy'n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?' Cafodd Aelodau'r Cynulliad eu dewis ar hap i gynrychioli pobl ym Mlaenau Gwent a chlywed tystiolaeth gan dros 20 o arbenigwyr.
Mae allyriadau carbon ym Mlaenau Gwent wedi gostwng 44% rhwng 2005 a'r ffigyrau diweddaraf yn 2022.
Gwnaeth cynghorwyr hefyd gymeradwyo Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEP) sy'n modelu senarios posibl ar gyfer system ynni Sero Net ym Mlaenau Gwent yn y dyfodol. Mae'r LAEP yn ddogfen allweddol yn nhaith Blaenau Gwent i Sero Net gan fod y system ynni yn gyfrifol am 70% o allyriadau carbon Blaenau Gwent. Mae'r model LAEP yn nodi heriau allweddol i Flaenau Gwent wrth gyrraedd Sero Net, gan gynnwys yr angen i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy lleol, ac i symud i ffwrdd o gerbydau petrol/diesel a gwres nwy mewn adeiladau i ddewisiadau amgen di-garbon.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd a'r Amgylchedd:
"Mae ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni, ac rydym yn cymryd ein cyfraniad at y broblem fyd-eang hon o ddifrif. Drwy ein Cynllun Datgarboneiddio, rydym yn gwneud beth allwn ni i leihau'r allyriadau rydym yn eu creu wrth ddarparu ein gwasanaethau ac rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o wneud pethau i adlewyrchu ein cyfrifoldebau amgylcheddol.
"Er mwyn cymryd camau sylweddol ymlaen, rydym yn cydnabod bod angen i gamau lleol ddigwydd ochr yn ochr â gweithredu ar sail ranbarthol a chenedlaethol hefyd. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd fod yn fentrus ac yn barod wrth gynllunio, oherwydd petai'r newidiadau hynny'n digwydd heb weithredu lleol sylweddol, allwn ni ddim cyflawni system ynni Sero Net ym Mlaenau Gwent."
Datblygwyd y Cynllun Ynni Ardal Leol gyda chyllid Llywodraeth Cymru a bydd yn helpu i lywio'r Cynllun Ynni Cenedlaethol sydd ar ddod.
Datganodd Cyngor Blaenau Gwent Argyfwng Hinsawdd ym mis Medi 2020 ac mae ganddo ei Gynllun Datgarboneiddio 2020 – 2030 ei hun , sy'n cwmpasu allyriadau carbon y Cyngor ei hun.