¹û¶³´«Ã½app

Y Dirprwy Brif Weinidog yn clywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr Fforwm Dyfodol Teithio Blaenau Gwent

Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS â Sefydliad Glowyr Llanhiledd, Blaenau Gwent i glywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr Fforwm Dyfodol Teithio Blaenau Gwent.

Yn ystod ei ymweliad, clywodd y Dirprwy Brif Weinidog am sesiynau diweddar y Fforwm Dinasyddion a gynhaliwyd ar 18 Ionawr a 1 Chwefror ac roedd ganddo ddiddordeb yn rhesymau’r bobl sy'n cymryd rhan yn y fforwm dros wneud cais, eu profiadau o'r broses hyd yma a'r hyn y gobeithiwn y bydd y fforwm yn ei gyflawni.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried y Fforwm yn enghraifft weithredol dda o gynnwys dinasyddion mewn ymarfer ymgynghorol i gynorthwyo gyda phenderfyniadau, a bydd clywed gan y cyfranogwyr am eu profiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y rheswm dros – a’r gwerth o – greu mwy o gyfleoedd fel yr un yma ar gyfer ymgysylltu â chymunedau a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.   

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Cymru fod yn uchelgeisiol wrth greu diwylliant democrataidd cadarn ac mae'n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl ymgysylltu â'r sefydliadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn arwain y gwaith o sefydlu Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth newydd gyda Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn recriwtio aelodau. Ei rôl fydd archwilio ac arloesi yn y maes hwn.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd ac ar y cyd â'n partneriaid wedi creu Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio i helpu i ddeall sut y gellir gwella teithio ledled y fwrdeistref dros y pum mlynedd nesaf. Bydd ymgysylltu â barn cymunedau yn ein helpu i ddeall beth sydd ei angen i wneud y newidiadau ymarferol angenrheidiol."

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Y fforwm dinasyddion ym Mlaenau Gwent yw’r math o waith rydyn ni am ei annog ledled Cymru. Mae'n ffordd wych o ddod â phobl ynghyd i drafod materion pwysig fel trafnidiaeth leol, fel y gall pobl gael mwy o lais yn eu cymunedau eu hunain.
"Mae ein Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth, dan gadeiryddiaeth Dr Anwen Elias, yn archwilio ffyrdd o annog mwy o bobl i ddweud eu dweud ar sut mae ein cymunedau'n cael eu rhedeg. Rydyn ni nawr yn chwilio am aelodau i ymuno drwy broses recriwtio agored. Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn awyddus iawn i glywed gennych chi."

Bydd y Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio yn cytuno ar 10 argymhelliad yn y drydedd sesiwn ar 15 Chwefror y gall y cyngor a'r partneriaid trafnidiaeth eu cynnwys mewn gwaith yn y dyfodol ar sut y dylid gwella teithio ym Mlaenau Gwent yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Gweithiodd y Cyngor gyda'r Sortition Foundation i ddewis trigolion drwy loteri, mewn ffordd sy'n cynrychioli poblogaeth ehangach Blaenau Gwent. Mae’r Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio yn cynnwys 21 aelod a ddewiswyd ar ôl i 6,500 o lythyrau gael eu hanfon allan ar hap yn y fwrdeistref. O'r 164 o bobl a ymatebodd cafodd unigolion eu dewis ar hap i adlewyrchu poblogaeth Blaenau Gwent. Mae'r fforwm, a gyflwynwyd gan Involve, yn rhan o brosiect Innovate UK (Asiantaeth Arloesi Llywodraeth y DU) y cyngor o dan y Rhaglen Byw Net Sero sy'n edrych ar y rhwystrau an-technegol i Drafnidiaeth Net Sero ym Mlaenau Gwent.

Y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies yn rhyngweithio ag aelodau Fforwm Dyfodol Teithio Blaenau Gwent yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd.