Gyda mwy na 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ar draws Cymru, maeâr angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn fwyfwy dybryd.
Ar hyn o bryd mae 201 o blant mewn gofal maeth ym Mlaenau Gwent, a 40 o aelwydydd maethu.
Ym mis Ionawr lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, sef ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.
Ymunodd Maethu Cymru Blaenau Gwent ââr ymgyrch, âGall pawb gynnig rhywbeth,â i rannu profiadau realistig gan y gymuned faethu i ymateb i rwystrau cyffredin i ymholiadau.
Mae rhai oâr rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethuân cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rĂ´l gweithwyr cymdeithasol gofal maeth aâr âswigen gymorthâ syân bodoli o amgylch gofalwyr maeth, i ddarparuâr canlynol i ddarpar ofalwyr:
Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rĂ´l gweithwyr cymdeithasol gofal maeth aâr âswigen gymorthâ syân bodoli o amgylch gofalwyr maeth, i ddarparuâr canlynol i ddarpar ofalwyr:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth am rĂ´l gweithwyr cymdeithasol, a sut y gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
- Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy'n gweithio'n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.
- Cymhelliant i gychwyn y broses o ddod yn ofalwr maeth trwy Awdurdod Lleol.
Mewn yn ddiweddar, dim ond 44% oâr ymatebwyr a ddywedodd fod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchuân dda ac roedd bron i ddwy ran o bump (39%) oâr oedolion a holwyd yn teimlo bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol âyn aml wedi gwneud pethauân anghywir.â Er mai dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sy'n credu bod gwaith cymdeithasol yn cael ei barchu'n fawr.
âNid yw gwaith cymdeithasol yn rĂ´l y gallwch ei wneud heb fod ag angerdd amdano ac er y gall fod yn straen, mae hefyd yn rhoi llawer o foddhad. Dw i wir yn mwynhau gweithio gyda gofalwyr maeth a gweld pobl yn tyfu ar eu taith faethu.â â Sarah
Maeâr ymgyrch ddiweddaraf âGall pawb gynnig rhywbethâ yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu i ddeall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Roedd 309 o ymatebwyr ac maeâr canfyddiadau allweddol yn cynnwys y canlynol:
- Dywedodd 78% o weithwyr cymdeithasol yn yr arolwg eu bod wedi ymuno â'r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd
- Dywedodd 18% o ofalwyr maeth fod canfyddiadau negyddol o weithwyr cymdeithasol yn ganlyniad sylw Newyddion
- Dywedodd 29% o ofalwyr maeth cyn cyfarfod â gweithiwr cymdeithasol eu bod yn meddwl y byddent yn âbobl â llwythi achosion trwm a llawer o waith papurâ
- Mae 27% o weithwyr cymdeithasol a arolygwyd yn credu bod darpar ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol
Mae Sarah Nixon yn weithiwr cymdeithasol TĂŽm Lleoli Blaenau Gwent ac wedi treulio bron i 3 blynedd yn y rĂ´l. Myfyriodd ar yr hyn sy'n gwneud gofalwr maeth gwych, a sut mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn cefnogi gofalwyr maeth lleol.
âDw i wedi sylweddoli pa mor bwysig yw hi i gael gweithiwr cymdeithasol syân cymryd amser i arsylwi, a dod i adnabod eich teulu, aâr plant. Mae wedi fy helpu i gadw fy nhraed ar y ddaear a chadw ffocws. Mae fy holl blant a phobl ifanc yn gyfforddus iawn gyda nhw ac yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn eu cefnogi.â â Gofalwr Maeth Lleol
Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a hirhoedlog i gefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roeddent hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol aâr cymorth a gewch, a thalwyd teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: