¹û¶³´«Ã½app

Ymestyn cyllid y Cyngor ar gyfer cynlluniau dosbarthu bwyd

Ers diwedd mis Rhagfyr 2022 mae’r Cyngor wedi darparu gwerth dros £150,000 o gyllid grant i  sefydliadau newydd a phresennol i gefnogi preswylwyr gyda darpariaeth bwyd argyfwng.

Rhoddwyd grant dechreuol o £82,190 ddechrau 2003 o’r cynllun costau byw dewisol a dyfarnwyd £89,850 i ymgeiswyr gwreiddiol ym mis Mawrth 2023 i ymestyn y ddarpariaeth honno.

Gallodd sefydliadau wneud cais am grant o hyd at £5,000 a darparwyd y ddarpariaeth bwyd argyfwng mewn nifer o wahanol ffyrdd. Rhoddodd rhai brydau bwyd, bwyd diwedd dydd a pharseli bwyd ar gyfer preswylwyr i’w casglu.

Fe wnaeth y cynlluniau bwyd gefnogi 1,251 o breswylwyr ym mis Chwefror 2023 yn unig yn cynnwys:

  • cefnogodd Canolfan Gymunedol Sirhywi 300 o breswylwyr
  • cefnogodd Eglwys Bedyddwyr Ebeneser 205 o breswylwyr
  • cefnogodd EVA yng Glynebwy 204 o breswylwyr

Fe wnaeth y Cyngor hefyd gefnogi Ymddiriedolaeth Trussell. Rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Chwefror 2023 anfonwyd dros 550 dosbarthiad at deuluoedd gan gefnogi dros 880 o oedolion a bron 400 o blant. Dyrannwyd cyllid pellach hefyd ddiwedd mis Mawrth 2023 i ymestyn darpariaethau fel rhan o’r cynllun costau byw dewisol.

Dywedodd y Cynghorydd Stephen Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Rydym yn sylweddoli mai un o’r prif bwysau sy’n wynebu teuluoedd lleol yw cost gynyddol bwyd gan y bu cynnydd mawr mewn prisiau ar gyfer hyd yn oed y nwyddau mwyaf sylfaenol. Rwy’n falch ein bod wedi medru cefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Trussell a llawer o grwpiau cymunedol sy’n ymwneud â darparu bwyd ar gyfer ein preswylwyr mwyaf bregus.

Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled, ac mae’n parhau i fod yn un o’n prif flaenoriaethau i wneud popeth a fedrwn fel Cyngor i gefnogi ein cymunedau drwy’r argyfwng costau byw.

Os hoffech gyfrannu bwyd cysylltwch yn uniongyrchol ag Ymddiriedolaeth Trussell neu un o’r grwpiau cymunedol lleol /cy/preswylwyr/cymorth-costau-byw/dod-o-hyd-i-fanc-bwyd-neu-ddarparwr-cymorth-bwyd/

Astudiaeth Achos – Gwent Valleys Evangelism

Cysylltodd dyn â’r Cyngor drwy’r cyfryngau cymdeithasol i ofyn am barsel bwyd gan ei fod wedi colli ei swydd oherwydd problemau iechyd meddwl ac ni allai gael arian gan yr Adran Gwaith a Phensiynau am 6 wythnos. Roedd wedi ei chael yn anodd cynnal swydd oherwydd ei broblemau iechyd.

Dechreuodd Gwent Valleys Evangelism ddosbarthu parsel bwyd wythnosol iddo. Fe wnaethant yn sicr ei fod yn cael sgyrsiau rheolaidd gydag ef ar drothwy ei ddrws neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Adeiladu perthynas o ymddiriedaeth oedd yr her. Fe wnaethant lwyddo i oresgyn hyn, ac mae wedi dweud wrthym yn gyfrinachol am ei fywyd a sut mae’r sefyllfa hon yn effeithio arno bob dydd. Cafodd ei annog i gael help gyda’i iechyd meddwl. Ymwelodd â’i feddyg teulu a GDAS, sy’n awr yn ymweld ag ef bob wythnos drwy’r cyfryngau cymdeithasol.