¹û¶³´«Ã½app

Ymgynghoriad i gynddu nifer disgyblion yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm

Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol i gynyddu capasiti yn Ysgol Arbennig Pen-y-cwm yng Nglynebwy.

Mae’r Pwyllgor Gweithredol wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus i gynnig i gynyddu nifer lleoedd disgyblion yn yr ysgol o 120 i 175. Byddid yn cyflawni hyn drwy wneud gwaith ailwampio mewnol i gynyddu gofod addysgu a llesiant.

Cynhelir ymgynghoriad ar-lein rhwng dydd Llun 26 Ebrill a dydd Sul 6 Mehefin 2021. Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad a rhoi eich sylwadau ar y wefan yn y dyfodol agos.

Bydd tîm Trawsnewid Addysg y Cyngor hefyd yn cynnal ymgynghoriad wedi’i dargedu gyda rhanddeiliaid allweddol yn cynnwys rhieni, llywodraethwyr, undebau llafur, pwyllgor craffu a rhanddeiliaid eraill statudol.

Mae Pen-y-Cwm yn Ysgol Arbennig ar gyfer rhai 3 i 19 oed gyda sbectrwm eang o anghenion cymhleth.

Gwelodd yr ysgol gynnydd yn yr angen am leoedd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Os cymeradwyir y cynnig, byddai hefyd yn golygu y gellid darparu ym Mhen-y-Cwm ar gyfer rhai disgyblion lleol sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgol tu allan i Flaenau Gwent oherwydd eu hanghenion.

Dywedodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae’r Cyngor yn hollol ymroddedig i gefnogi ein disgyblion gydag anghenion addysgol sylweddol a’u teuluoedd ac rydym eisiau parhau i wneud yn siŵr y bydd y disgyblion hyn yn cael y cyfleoedd gorau yn cael y cyfleoedd gorau y gallwn eu cynnig o fewn ein bwrdeistref sirol. Mae ein tîm Cynhwysiant yn gweithio’n agos gyda theuluoedd a gwelsom gynnydd yn nifer y disgyblion sydd angen y lleoliad arbenigol hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly rwy’n falch fod y Pwyllgor Gweithredol heddiw wedi cymeradwyo mynd mas i ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig pwysig hwn.

“Fel bob amser, byddem yn annog cynifer o bobl ag sydd modd sydd â diddordeb yn y cynnig i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fydd ar gael yn rhwydd ar ein gwefan.â€

Dywedodd Darya Brill-Williams, Pennaeth Ysgol Pen-y-cwm:

“Mae Pen-y-Cwm yn ysgol hapus a llwyddiannus iawn sy’n ceisio cyflawni ei arwyddair ‘Gwnawn ein gorau’ a rhagori yn ei holl weithgaredd. Mae ein dysgwyr a’u teuluoedd yn haeddu’r gorau ac anelwn gynnig dim byd llai.

“Rydym yn awyddus i weithio gyda’r Cyngor i gyflawni’r capasiti ychwanegol y mae angen dybryd amdano. Mae ein Llywodraethwyr, grŵp arweinyddiaeth, staff a thîm arbenigol ehangach gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyd yn ymuno â mi wrth edrych ymlaen yn fawr wrth feddwl y gellir datblygu’r cyfleusterau presennol i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ddysgwyr sydd angen darpariaeth addysgol arbenigol.â€

Os yw’r cynnig yn mynd yn ei flaen, gobeithir y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn dechrau’r tymor ym mis Medi 2021,