ąű¶ł´«Ă˝app

Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn dathlu ardal dysgu awyr agored newydd

Cafodd hen ardal gardd yn Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen ei thrawsnewid yn ardal dysgu awyr agored epig ar gyfer y dysgwyr ieuengaf diolch i Alun Griffiths Cyf.

Ar ôl ymweld â’r ysgol yn fuan cyn cyfnod clo Covid i siarad gyda disgyblion am ei yrfa a’i fusnes, cafodd y perchennog Mr Alun Griffiths ei swyno gan yr ysgol a’i disgyblion. Dywedodd, pe byddent yn cynllunio eu parth dysgu awyr agored delfrydol, y byddai yn helpu i’w wneud yn realaeth.

Nawr mae’r ardal newydd yn gyflawn, gyda chylch stori, cegin fwd, gofodau gwaith, ardaloedd mathemateg a llythrennedd, gweithgareddau datblygu corfforol, llwyfan a hyd yn oed dwnnel a phont.

Mae’r plant a’r staff ar ben eu digon gyda’r parth dysgu newydd.

Dywedodd Keri Smith, pennaeth yr ysgol:

“Roedd gardd y cyfnod sylfaen yn ofod trist iawn heb ddim byd heblaw tŷ chwarae a doedd gennym ni ddim gofod awyr agored neilltuol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen oedd yn wirioneddol yn cefnogi addysg y plant.

“Newidiodd hynny i gyd yn dilyn ymweliad i’r ysgol gan Alun Griffiths, a drefnwyd gan dĂ®m allgymorth addysgol gwych ei gwmni, a dyma ni heddiw gyda’r gofod bendigedig hwn lle gall ein plant ddysgu a chwarae.  Mae’n hollol wych fod y cwmni lleol hwn yn rhoi’n Ă´l i’r gymuned ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i gyrraedd eu potensial – pwy sy’n gwybod, efallai y gallai rhai ohonynt fod yn aelodau o’u gweithlu yn y dyfodol.

“Ni allwn ddiolch digon iddynt!

“Diolch hefyd i Michele Jones, Cydlynydd STEM yn yr ysgol, sydd wedi gweithio’n agos gydag Alun Griffiths wrth gynllunio a chyflenwi’r prosiect.”

Dywedodd Mr Alun Griffiths:

“Fe wnaeth ymroddiad a brwdfrydedd y staff i roi’r addysg orau oll i’w disgyblion argraff fawr arnaf pan ymwelais ag Ysgol Rhos-y-Fedwen. Sylweddolais y bwlch yn nysgu’r Cyfnod Sylfaen a chynigiais helpu. Gyda chydweithrediad yr ysgol a fy nhîm, rwy’n gobeithio y bydd yr hyn a gafodd ei greu yn hyb addysg dysgwyr cynnar a gobeithio yn y dyfodol y byddant yn y diwydiant adeiladu gan ein bod angen pobl wych. Bu’n bleser cefnogi Ysgol Rhos-y-Fedwen.”

Bydd gwaith ailwampio helaeth yn cael ei gynnal yn yr ysgol hefyd fel rhan o Ysgolion yr 21ain Ganrif, partneriaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru. Bydd peth o’r gwaith hwn yn creu cyfleoedd i’r ysgol i weithio hyd yn oed yn fwy agos gyda theuluoedd a’r gymuned leol yn ehangach – rhywbeth y mae Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn ymfalchïo ynddo.

Ychwanegodd Ms Smith:

“Rydym yng nghalon y gymuned ac mae ein teuluoedd mor bwysig i ni â’r plant eu hunain. Mae cyfnod cyffrous iawn i ddod i’r ysgol – ac ni allwn aros i rannu’r holl fanylion gyda’n teuluoedd a’r gymuned”.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, llywodraethwr yn yr ysgol ac aelod ward lleol Rasa:

“Mae Rhos-y-fedwen yn ysgol wych yma yng nghanol y gymuned yn Rasa, ac rwy’n falch iawn i fod wedi bod yn Llywodraethwr yno dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gweld yr ysgol yn mynd o nerth i nerth.

“Mae amser hyd yn oed well i ddod i’r ysgol gyda gwelliannau cyffrous ar y gweill ar gyfer adeilad yr ysgol i hybu cyfleoedd addysgu a dysgu, gan ddechrau gyda’r ardal awyr agored arbennig yma diolch i Alun Griffiths Construction. Am beth gwych i wneud i’n dysgwyr, diolch yn fawr.”

Fe wnaeth Griffiths Construction hefyd gyfrannau setiau o hetiau caled, gwasgodau llachar a menig gwarchod i’r ysgol.

Bu gan y plant ran fawr wrth benderfynu beth hoffent iddo fod yn yr ardal newydd ac yn awr yn pleidleisio ar enw.