Cafodd Caffe Cymunedol a Phantri Cymunedol newydd eu hagor yn yn Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm a Chyfnod Cynradd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yng Nglynebwy.
Lansiwyd y caffe aâr pantri yn swyddogol gan Nick Smith, Aelod Seneddol Blaenau Gwent.
Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng y ddwy ysgol syân rhannu safle. Caiff y Caffe Cymunedol ei redeg gan ddisgyblion Ă´l-16 o Ysgol Pen-y-Cwm fydd yn gweini te, coffi a lluniaeth. Bydd hyn yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i ddisgyblion a bydd hefyd yn fan croesawgar i rieni aâr gymuned ehangach alw heibio.
Mae nod y Pantri Cymunedol yn debyg i fanc bwyd, sef darparu bwyd i deuluoedd yn y ddwy ysgol ar adeg pan fo angen hynny. Mae Heddlu Bach Cyfnod Cynradd Ebwy Fawr yn arwain ar drefnu a stocioâr pantri cymunedol.
Dywedodd Carys Llewellyn, Pennaeth Cynradd Cyfnod Cynradd Ebwy Fawr:
âMae Pen-y-cwm ac Ebwy Fawr wrth eu bodd i gydweithio ar y prosiectau hyn. Maeâr penderfyniad i gynnwys y gair âcymunedolâ yn enwauâr pantri aâr caffe yn ddewis bwriadol iawn gan y gobeithiwn y bydd y ddau gyfleuster yn ased ac adnodd y gellir eu defnyddio i gefnogi ein cymunedau ysgol aâr gymuned ehangach yng Nglynebwy.â
Dywedodd Deborah Herald, Pennaeth Ysgol Pen-y-Cwm:
âHoffem ddiolch yn fawr iâr holl staff sydd wedi arwain ar drefnu a sefydluâr caffi aâr pantri bwyd. Hoffem hefyd ddiolch i Ron Skinner aâi Feibion, Tesco aâr Principality am eu cyfraniadau hael yn ogystal ag Arlwyo Blaenau Gwent am eu cefnogaeth.â
Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg Cyngor Blaenau Gwent:
âWow, am brosiect gwych ydi hwn. Maeân rhoi profiad o waith go iawn a chyfrifoldeb i rieni, gan gysylltu gydaâr gymuned leol a hefyd helpuâr teuluoedd hynny mewn angen yn ystod y cyfnod ariannol anodd yma.
âDa iawn chi a phob lwc bawbâ.
Bydd y caffe ar agor i aelodauâr cyhoedd rhwng 9am a 11am ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener.
Ěý