Mae gan y Cyngor ymrwymiad i fynd i'r afael â cham-drin domestig yn ei holl agweddau. Caiff y cynllunio strategol, cydlynu, darparu gwasanaeth ac adolygu gwasanaeth eu gwneud gan Trais yn erbyn Menywod Gwent, Bwrdd Strategol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Deallwn fod trais domestig a cham-drin domestig yn effeithio ar bobl o bob cefndir diwylliannol, cymdeithasol ac ethnig. Mae'n effeithio ar rai sydd mewn gwaith a rhai allan o waith, yr hen a'r ifanc, ym mhob rhan o Gymru. Er mai menywod yw mwyafrif helaeth y rhai sy'n dioddef o gam-drin domestig, mae dynion yn dioddef hefyd yn ogystal â phlant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi lle mae cam-drin domestig yn digwydd. Gall cynnwys pob math o gam-driniaeth corfforol, emosiynol a/neu rywiol a gall ddigwydd o fewn pob math o berthynas agos, yn cynnwys perthnasoedd yr un rhyw.
Gyda'ch help, rydym eisiau sicrhau fod pob plentyn, menyw neu ddyn agored i niwed sy'n profi cam-drin neu drais domestig neu y mae cam-drin neu drais domestig yn effeithio arnynt yr hyderus gofyn am help.
Os ydych yn bryderus iawn am rywun y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt:
Mewn argyfwng cysylltwch â 999
Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent ar 01495 311556 neu Heddlu Gwent ar 01633 838111 neu 101.
I gael cyngor a help, efallai y byddwch yn dymuno â'n partneriaid:
Tîm VAWDASV Gwent drwy e-bost: Vawdasv.Gwent@newport.gov.uk