Mae Storm Bert wedi effeithio ar lawer o gartrefi ym Blaenau Gwent ac mae preswylwyr bellach yn wynebu’r weithred dorcalonnus o lanhau.
Cafodd y dudalen hon ei chreu er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rheini a effeithiwyd ynghylch beth i’w wneud nesaf. Gallwch hefyd roi gwybod i ni pa gymorth sydd ei angen arnoch wrth gwblhau ein ffurflen ar-lein.
Am help a chymorth gyda’n ffurflen neu os oes unrhyw ymholiadau gennych ffoniwch ni ar 01495 311556.
Cronfa Cymorth Dewisol
Os gafodd eich eiddo ei effeithio gan y llifogydd diweddar, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys am grant o’r Gronfa Cymorth Dewisol oddi wrth Lywodraeth Cymru i dalu am unrhyw gostau perthnasol a allai fod wedi dod ar eich rhan.
Gellir cael gwybodaeth bellach a chyngor am sut i ymgeisio yma.
Cynllun grant adferiad llifogydd Blaenau Gwent
Mae cyngor Blaenau Gwent yn cael cymorth ariannol ar gael am breswylwyr sy'n cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddar yn ystod Storm Bert.
Fel ymateb unionyrchol mae wedi'i gytuno gan y Cyngor, ar y 28ain o Dachwedd, bydd taliadau o £1000 ar gael i gartrefi ble mae pobl yn fyw sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd.
Cymhwyster
- Darostyngedig i lifogydd mewnol ~(e.e. Cegin, ystafell fyw, ystafell gweli ayyb.)
- Llifogydd digwyddwyd fel canlyniad unionyrchol o storm Bert a digwyddwyd rhwng Dydd Sadwrn y 23ain – Dydd Llun y 25ain o Dachwedd, 2024.
- Nid yw’n cynnwys garejys, gerddi, cynteddau, adeiladau allanol ac ati, neu dŵr glaw yn treiddio neu’n gollwng.
- Ar gael am berchenogion neu denantiaid ond i nodi bod rhaid iddynt fod yn fyw yn y cartref (Bydd yna gwiriadau o’r cofnodion treth cyngor wrth ystyried eiddo gwag)
- Dim ar gael am landlordiaid, cartrefi gwag neu ail-cartrefi.
- Taliadau trwy BACS
Mae’r cynllun yn cau ar Ddydd Gwener y 20fed o Ragfyr, 2024.
Mae’r cynllun hwn yn ychwanegol i’r cynllun sydd wedi cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wythnos yma (£1000 i gartrefi heb yswiriant, neu £500 i gartrefi â sicrwydd yswiriant presennol).
Er hynny, bydd ceisiadau derbyniwyd gan naill ai cynllun yn cael eu defnyddio i asesu cymhwyster am y ddau gynllun lle yw’n bosib, er mwyn uchafu hawl i breswylwyr.
Proses ar gyfer ceisiadau
Gellir creu cais trwy hunanwasanaeth ar lein.
Wyneb i wyneb yn yr hybiau cymunedol
Wrth ffôn - Canolfan cyswllt - 01495 311556
Cadarnhewch a oes modd ichi ddychwelyd adref
- Os ydych chi wedi gorfod gadael eich cartref, gwiriwch gyda'r gwasanaethau brys ei fod yn ddiogel cyn i chi ddychwelyd.
- Efallai y bydd angen archwiliad diogelwch ar eich cartref neu fusnes hefyd gan y cwmnïau cyfleustodau cyn cael y dŵr, y nwy a’r trydan yn ôl i weithio eto.
Amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd yn y dyfodol
- Er mwyn lleihau difrod llifogydd, fe allech chi ystyried gosod teils yn lle carpedi, symud socedi trydanol yn uwch i fyny'r waliau a gosod falfiau nad ydyn nhw'n dychwelyd.
- Mae dod o hyd i gyflenwyr cynhyrchion a gwasanaethau llifogydd ar yTudalennau Glas.
- Darllenwch yFforymau Llifogydd Cenedlaethol cyngor arsut i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd. 
Cymorth gan sefydliadau eraill:
- Mae gwefan a gwefan yn rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd.
- Mae Cymorth Ariannol hefyd ar gael trwy Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru, mae gwybodaeth ar gael yma -.
- Mae Asda yn cynnig cefnogaeth trwy eu Cronfa Argyfwng, mwy o wybodaeth yma -
Rhifau defnyddiol
Canolfan Gyswllt – 01495 311556
Nwy Cenedlaethol - 0800 111 999
Argyfwng Trydan – National 105
Dŵr Cymru - 0800 085 3968