Gall dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd wneud cais am y Grant Hanfodol i Ysgolion o £125 y dysgwr, a £200 i'r dysgwyr hynny sy'n dechrau ym mlwyddyn 7, gan gydnabod y costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd.
Nid yw disgyblion sy' n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelu trosiannon neu'n derbyn prydau Ysgol am ddim Cynradd cyffredinol (UPFSM) yn unig ac nid eFSM yn seiliedig ar feini prawf sy'n gysylltiedig ag incwm/budd-dal yn gymwys i geal y cyllid hwn.
O fis Ionawr 2022 mae pob blwyddyn ysgol yn gymwys.
Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, p'un a ydynt yn cael prydau ysgol am ddim ai peidio.
Dim ond unwaith ar gyfer pob plentyn bob blwyddyn ysgol y mae gan teuluoedd hawl i hawlio
Bydd cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2025
Sut i wneud cais
Gwnewch gais ar-lein os yw:
- Eich plentyn yn gymwys am brydau ysgol am ddim a
- Nad yw eich plentyn eisoes wedi cael grant gwisg ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol gyfredol 2024/2025
Defnyddiwch borwr fel Chrome, Edge neu Safari i gael mynediad i Fy Ngwasanaethau a’r ffurflen islaw. Ni fydd yn gweithio gyda Internet Explorer.
Gwybodath Cyswllt
Enw’r Tîm: Budd-daliadau
E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio 01495 311556