Os oes gennych hawl i Fudd-dal Tai, gellir talu hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd yn dibynnu sut fath o gartref sydd gennych.
Gallwch canfod fod eich taliad cyntaf yn fwy na'r swm rheolaidd arferol oherwydd ei fod yn cynnwys 么l-daliad o ddyddiad eich cais.
Tenantiaid preifat:
Telir budd-dal tai i'r rhan fwyaf o denantiaid preifat, fel 么l-daliad. Os caiff eich Budd-dal Tai ei dalu'n syth i'ch landlord, caiff ei ad-dalu fel 么l-daliad bob pedair wythnos. Mae hyn yn cynnwys landlordiaid cymdeithasau tai.
Taliadau uniongyrchol i landlordiaid
Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl mewn cartrefi rhent preifat, dim ond pan na all y hawlydd drin eu busnes ariannol eu hunain, ei bod yn anhebygol y byddant yn talu eu rhent neu fod ganddynt wyth wythnos neu fwy o 么l-ddyledion rhent y gellir talu budd-dal tai i'r landlord.
Os oes gennych 么l-ddyledion rhent, gallwn wneud y taliad cyntaf i chi ond yn enw eich landlord.
Os oes gennych hawl i ostyngiad Treth Gyngor, yna byddwn yn talu hyn yn uniongyrchol i'ch cyfrif Treth Gyngor. Bydd bil newydd yn dangos y swm sy'n rhaid i chi ei dalu ar 么l gweithredu'r gostyngiad.
Gwybodaeth Gyswllt
Budd-dal Tai
Rhif Ff么n: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost:聽benefits@blaenau-gwent.gov.uk