Un o brif swyddogaethau'r system cynllunio yw rheoli datblygu a defnydd tir er mwyn diogelu'r amgylchedd.
Yn achlysurol mae datblygiad newydd yn digwydd neu gall defnydd tir neu adeiladau newid heb i ganiat芒d cynllunio gael ei roi yn gyntaf.
Sut mae gwneud cwyn?
Os credwch fod rheolau cynllunio/ deddfwriaeth wedi eu torri, byddem yn ddiolchgar pe gallech gysylltu i ni i gael cyngor yn bersonol, dros y ff么n, e-bost neu mewn ysgrifen. Gofynnwn am gymaint o fanylion ag sydd modd am union natur eich pryder. Y manylion rydym eu hangen yw:
- Union leoliad y safle
- Natur eich pryder
- Eich enw a'ch cyfeiriad cyswllt
- Unrhyw wybodaeth berthnasol/eraill 芒 diddordeb
Pa gamau gaiff eu cymryd?
Gall nifer o bethau ddigwydd unwaith y cafodd cwyn ei hymchwilio:
- Caiff y ffeil ei chau os canfyddir na fu toriad
- Os canfyddir y bu toriad, byddwn yn ceisio negodi datrysiad boddhaol ac annog cyflwyno caniat芒d cynllunio 么l-weithredol
- Os na chyflwynir cais cynllunio, ac yn dibynnu pa mor ddifrifol yw'r toriad, bydd yr Awdurdod yn ystyried yn ofalus pa gamau pellach y bydd angen eu cymryd er enghraifft cyflwyno hysbysiad ffurfiol. Fodd bynnag os penderfynir na chymerir camau gweithredu ffurfiol, caiff y toriad ei gofnodi a'i ddatgelu ar chwiliad eiddo yn y dyfodol a all achosi oedi mewn gwerthiant yn y dyfodol.
Materion na ellir gael eu gorfodi
Rhoddir rhai enghreifftiau o faterion na fedrir eu gorfodi drwy ddeddfwriaeth cynllunio neu systemau eraill:
- Materion yn ymwneud yn llwyr 芒 gollwng s诺n, arogleuon, llwch a mathau eraill o lygredd amgylcheddol, os nad yw'n cynnwys torri amod.
- Atal unrhyw ffordd neu hawl tramwy.
- Problemau parcio ar y stryd.
- Anghydfodau am y Ddeddf Waliau Cydrannol
- Materion yn ymwneud ag anghydfod am hawliau tramwy preifat, cymdogion a ffiniau. Materion o gyfraith sifil yw'r rhain a dylid gofyn am gymorth cyfreithiwr.
- Materion yn ymwneud 芒'r cyfyngiadau a osodwyd ar eiddo gan gyfamod. Fel yr uchod, mater o gyfraith sifil yw hyn a dylid gofyn am gymorth cyfreithiwr.
Mae gwybodaeth bellach yn y Polisi Gorfodaeth.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Datblygu
Rhif Ff么n: (01495) 364847
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk