Pan fyddwch yn prynu eiddo mae'n rhaid i chi chwiliad wedi ei gynnal ar yr eiddo ar gyfer dibenion morgais a throsgludo. Mae chwiliad yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth gan yr awdurdod i wirio os oes llyffetheiriau yn gysylltiedig â thir ar yr eiddo. Mae enghreifftiau'n cynnwys cynlluniau ar gyfer ffordd osgoi newydd, gwiriadau i weld os oes rhybudd gorfodaeth cynllunio ar yr eiddo neu bridiant ariannol arall.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cwblhau mwyafrif ei chwiliadau Awdurdod Lleol llawn o fewn 5 diwrnod gwaith.
Cynhelir Chwiliad Awdurdod Lleol am ffi o £116.40. Bydd y chwiliad yn rhoi gwybodaeth lawn o'r adrannau perthnasol ac unrhyw gofnodion ar y gofrestr pridiant tir.
Gall Chwiliad Personol gan Asiant Chwilio gostio llai na'r ffi a nodir gan yr awdurdod lleol ond gallai o bosibl gymryd mwy o amser i'w gwblhau. Dengys ein cofnodion fod Asiantau Chwilio yn defnyddio gwybodaeth gan y cyngor lleol sydd ar gael yn rhad ac am ddim ond gall gymryd mwy o amser i gael gwybodaeth o'r fath.
Derbyniwn alwadau gan breswylwyr lleol yn gofyn pam y caiff chwiliadau eu hoedi ac yn y mwyafrif o achosion mae hyn oherwydd Chwiliadau Personol.
Chi biau'r dewis ond roeddem am roi gwybodaeth gefndir i chi am chwiliadau.
Gwybodaeth i Gwmnïau Chwiliadau PersonolÌý
Chwiliadau Personol Rheoli Adeiladu
O’r 1af o Ebrill 2015, ni fydd adran Rheoli Adeiladu’r Cyngor bellach yn codi tâl am wybodaeth chwilio personol.Ìý
Byddwch yn ymwybodol y gallai’r chwilio cymryd hyd at 20 niwrnod gwaith i’w dychwelyd. Bydd chwiliadau yn cael eu dychwelyd ar e-bost. Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r uchod, cysylltwch â
Ffôn: 01495 355529 ar gyfer y Swyddfa Rheoli Adeiladu
Os hoffech wneud cais am chwiliad ar wybodaeth Rheoliadau Adeiladu, anfonwch e-bost at:-
ÌýÌýÌýÌýÌý emma.lloyd@blaenau-gwent.gov.ukÌý Ìý
Ìý cc cath.woods@blaenau-gwent.gov.uk
ÌýÌýÌýÌýÌý NB:Ìý please ensure the cc is includedÌý
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Adeiladu
01495 355529
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN