Mae rhai adeiladau sydd wedi’u heithrio rhag rheoliadau adeiladu. Gall y rhain gynnwys ystafelloedd gwydr, portshys, garejis domestig, adeiladau bach ar eu pennau eu hunain.
Cofiwch, er bod adeiladau wedi’u heithrio o ran rheoli adeiladu, efallai bydd rhaid cydymffurfio gyda materion eraill megis cynllunio.Â
Os ydych yn ansicr am hwn neu unrhyw agwedd arall o adeiladau wedi’u heithrio,  cysylltwch â Rheoli Adeiladu ar 01495 355521 neu e-bostiwch: building.control@blaenau-gwent.gov.uk
Ystafelloedd Gwydr
I fod yn eithriedig rhaid i’ch ystafell wydr fodloni’r meini prawf canlynol:
- Rhaid iddi fod ar lefel daear yn unig.
- Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr
- Mae gan ystafell wydr dim llai na tri chwarter o ardal ei do a dim llai na hanner o ardal ei waliau allanol wedi’u gwneud o ddeunydd tryloyw.
- Rhaid iddi beidio â chael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw/cysgu).
- Rhaid cadw’r drysau a/neu ffenestri allanol presennol.
- Rhaid defnyddio gwydr diogelwch.
- Rhaid i’r system wres fod ar wahân a ddim wedi’u hymestyn o’r prif dŷ a chael ei system reoli ei hun.
Portshys
I fod yn eithriedig rhaid i estyniad eich portsh fodloni’r meini prawf canlynol:
- Rhaid iddi fod ar lefel daear yn unig
- Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr.
- Rhaid iddi beidio â chael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw/cysgu)
- Rhaid cadw’r drysau a/neu ffenestri allanol presennol.
- Rhaid defnyddio gwydr diogelwch.
- Rhaid i’r system wres fod ar wahân a ddim wedi’u hymestyn o’r prif dŷ a chael ei system reoli ei hun.
Cysgodfeydd Ceir
I fod yn eithriedig rhaid i’ch cysgodfa ceir fodloni’r meini prawf canlynol:
- Rhaid iddi fod ar lefel daear yn unig.
- Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr
- Rhaid i’r gysgodfa ceir fod ar agor ar o leiaf dwy ochr
Garejis/ adeiladau bach ar eu pennau eu hunain
I fod yn eithriedig rhaid i’ch garej fodloni’r meini prawf canlynol:
- Rhaid iddi fod ar wahân
- Rhaid iddi fod ar un llawr
- Rhaid i faint y llawr y tu mewn peidio â bod yn hwy na 30 metr sgwâr
- Rhaid iddi beidio â chael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw/cysgu)
- Mwy nag 1 metr o’r ffin neu ddim yn llosgadwy o gwbl
Am unrhyw wasanaethau e.e. trydan/ draenio, rhaid cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN