Gall fod angen i chi gael caniatâd cynllunio os ydych eisiau codi adeilad newydd neu wneud gwaith adeiladu neu beirianneg arall ar eich eiddo. Gallech hefyd fod angen caniatâd cynllunio os ydych yn newid y ffordd y caiff yr adeilad neu dir ei ddefnyddio.
Byddwch fel arfer angen caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth cysylltiedig er mwyn:
- Codi adeilad newydd
- Ymestyn neu newid adeilad presennol
- Gwneud newidiadau i'r ffordd y defnyddir adeilad, er enghraifft troi tÅ· yn fflatiau neu wneud siop yn gartref
- Gwneud gwaith peirianneg neu waith arall, megis gwaith cloddio neu godi wal gadw
- Dymchwel adeilad neu strwythur
- Gwneud gwaith ar Adeilad Rhestredig
- Gwneud gwaith mewn Ardal Gadwraeth
- Gwneud gwaith ar goed gwarchodedig neu goed mewn ardal gadwraeth
- Codi adeiladau amaethyddol newydd
Mae'r yn cynnwys mwy o wybodaeth i'ch helpu i ganfod pa fath o ganiatâd cynllunio y gallech fod ei angen. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis fersiwn Cymru ar ochr dde uchaf fel y dudalen fel bod yr wybodaeth a rheoliadau yn berthnasol i Gymru.
Mae gan y hefyd ddiagram rhyngweithiol o dÅ· i roi cyngor cynllunio ar wahanol rannau eich eiddo, megis newid ffenestri, adeiladu garej ac estyniadau.
Datblygiad a ganiateir - lle nad ydych angen caniatâd cynllunio
Mae rhai mân welliannau, newidiadau ac estyniadau y gallwch eu gwneud i'ch cartref nad ydych angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Gelwir y rhain yn ddatblygiadau a ganiateir. Gallant gynnwys adeiladu rhai mathau o gynteddau, ystafelloedd haul dan faint neilltuol a hefyd rai newidiadau mewnol.
Gallwch gael cyngor am hawliau datblygiadau a ganiateir o wefan neu o
Ffyrdd eraill i wirio os ydych angen caniatâd cynllunio
Os ydych yn ansicr os ydych angen caniatâd cynllunio gallwch:
- Gael cyngor gan ymgynghorwyr cynllunio
- Gwirio canllawiau ar wefannau Llywodraeth Cymru a'r Porth Cynllunio
- Cael cyngor cyn-gwneud cais gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad:Â Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk