Ers 7 Ioanawr 2019 mae newid sylweddol I ofynion draenio wedi’I gyflwyno ledled Cymru.
Mae Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddraenio dŵr wyneb ar gyfer datblygiadau newydd er mwyn cydymffurfio â Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy.
Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i systemau draenio dŵr wyneb gael eu cymeradwyo gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, cyn y gall gwaith adeiladu gyda goblygiadau draenio ddechrau. Ac eithrio safleoedd cwrtil sengl, mae gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ddyletswydd i fabwysiadu'r systemau hyn.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i brosesu pob cais am ddatblygiadau o fewn Blaenau Gwent sy'n fwy nag un annedd neu sydd ag arwynebedd adeiladu o fwy na 100 metr sgwâr. Bydd angen i geisiadau ar gyfer cymeradwyaeth draeniad cynaliadwy ar gyfer y datblygiadau hyn wneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful drwy glicio'r ddolen .
Mae'r holl ddatblygiadau sydd â goblygiadau draenio ar gyfer un eiddo neu ddatblygiad o dan y trothwy o 100 metr sgwâr wedi'u heithrio rhag cymeradwyaeth SAB, ond bydd angen cymeradwyaeth Cynllunio / Draenio arnynt o hyd. Gellir cael caniatâd ar gyfer y ceisiadau hyn trwy'r broses gynllunio, drwy ofyn am gymeradwyaeth drwy e-bost at Drainage@blaenau.gwent.gov.ukÌý
Atebion i rai cwestiynau
Atodlen 3 a'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr – Sut y mae'n effeithio ar CBSC?
Mae Atodlen 3 yn sefydlu Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy mewn awdurdodau unedol ac mae'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn rhoi cyfrifoldeb statudol i'r cyrff hynny dros gymeradwyo, ac mewn rhai achosion mabwysiadu, y systemau draenio cymeradwy.
Beth yw Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a sut mae'n effeithio ar fy natblygiad?
Sefydlir Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy er mwyn:
- Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draenio ar gyfer datblygiadau newydd lle mae gan waith adeiladu oblygiadau draenio, a
- Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr wyneb yn unol ag adran 17 o Atodlen 3 (Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr).
Rhaid i systemau draenio dŵr wyneb sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd gael eu cynllunio a'u hadeiladu yn unol â safonau ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy'n gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.Ìý
Pryd y daw'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar waith?
Llofnodwyd y Gorchymyn Cychwyn ar gyfer Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (y Ddeddf) ar 1 Mai 2018. Mae hwn yn pennu dyddiad dechrau ar gyfer y gofyniad cymeradwyo, sef 7 Ionawr 2019.
Pam yw Systemau Draenio Cynaliadwy a'r Cyrff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn bwysig?
Mae'r gofyniad i ystyried Systemau Draenio Cynaliadwy ym mhob safle newydd ac wedi'i ailddatblygu yn cael ei yrru gan lifogydd lleol presennol a chynyddol, mwy o lygredd i'n hafonydd, tirweddau naturiol gwael, bioamrywiaeth yn dirywio ac ansicrwydd o ran effaith y newid yn yr hinsawdd.
Yn arbennig, mae systemau pibellog/tanddaearol traddodiadol sy'n casglu dŵr ffo o arwynebau palmantog caled megis toeau, ffyrdd a meysydd parcio yn anghynaladwy ac maent wedi cyfrannu at fwy o berygl o lifogydd a llygredd drwy:
- Cynyddu cyfaint a chyfradd y dŵr wyneb sy'n cael ei ollwng i gwrs dŵr derbyn ac felly cynyddu'r perygl o lifogydd afonol;
- Gorlifo yn ystod glawiad trymach, gyda dŵr yn methu â gollwng i'r system neu'n dod i'r amlwg drwy dyllau a gylïau mewn ardaloedd ar lun is ac felly'n achosi llifogydd glaw lleol;
- Rhwystrau rhannol neu lawn a achosir gan waddodi, malurion neu bibellau'n dymchwel na fydd yn cael eu sylwi nes bydd glaw mawr yn achosi llifogydd mewn ardaloedd i fyny'r afon;
- Fawr ddim trin dŵr wyneb ffo, yn enwedig o fannau ar gyfer cerbydau, a thrwy hynny'n cyfleu pob llygrydd i'r amgylchedd naturiol;
- Mwy o ollwng dŵr wyneb i garthffosydd cyfun neu waith trin dŵr gwastraff.
Mae maint trefoli ac agwedd cymdeithas tuag at reoli dŵr wyneb yn gwaethygu'r materion sydd eisoes yn bodoli. Mae'n hanfodol felly bod angen unrhyw ddatblygiad newydd er mwyn ymgorffori egwyddorion draenio cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i newid agweddau tuag at fyw gyda dŵr a lliniaru effeithiau trefoli a thrwy hynny atal dirywiad pellach.
Mewn perthynas â Systemau Draenio Cynaliadwy, amcan polisi Llywodraeth Cymru yw cyflawni Systemau Draenio Cynaliadwy amlbwrpas effeithiol mewn datblygiadau newydd a fydd yn cael eu cynnal yn ystod oes y datblygiad y maent yn eu gwasanaethu.ÌýÌý
A oes angen i'r holl ddatblygiadau gael eu cymeradwyo gan Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy?
Ar hyn o bryd, gyda'r eithriadau o anheddau unigol a datblygiadau gydag ardal adeiladu sy'n llai na 100 metr sgwâr, cynigir y bydd angen cymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar bob gwaith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio.
Fodd bynnag, bydd angen cymeradwyaeth yr SAB o hyd os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn amodol ar amod ynghylch mater a gadwyd yn ôl ac na wnaed cais i gymeradwyo’r mater a gadwyd yn ôl cyn 7 Ionawr 2020.
Beth yw'r ffordd orau o fynd ati i gael cymeradwyaeth?
Dylid ystyried systemau draenio ar gamau cyntaf dyluniad y safle er mwyn sicrhau'r manteision gorau posibl. Bydd hyn yn dylanwadu ar gynllun y ffyrdd, yr adeiladau a'r mannau agored cyhoeddus. Rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Safonau Cenedlaethol y Gweinidogion Anstatudol a CIRIA C753: Y Cyfeirlyfr Systemau Draenio Cynaliadwy.Ìý
Dylai'r gwaith o gynllunio cynllun safle newydd gael ei integreiddio a dylai gydfynd â'r topograffi presennol a gofynion y systemau rheoli dŵr wyneb, er mwyn rheoli a thrin dŵr ffo wyneb yn effeithiol tra'n gwella ansawdd y dŵr. Dylid cadw unrhyw gyrsiau dŵr, ffosydd, a nodweddion draenio eraill sydd o fewn y cynllun ac yn gyfagos a'u hymgorffori yn y datblygiad. Bydd yr uchod yn helpu darparu manteision bioamrywiaeth a'r amwynderau a'r dyluniad cost-effeithiol.Ìý
Mae Safonau Cenedlaethol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn cynnwys nifer o egwyddorion dylunio draenio a chyfres o chwe safon. Bydd angen i ddylunwyr draenio ddangos sut y mae eu system ddraenio arfaethedig ar gyfer datblygiad newydd yn cydymffurfio â'r rhain.
A yw'r cais am gymeradwyaeth Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn wahanol i'r system gynllunio?
Proses gymeradwyo dechnegol yw'r broses gymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Bydd angen gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth draenio cynaliadwy ar ddatblygiadau newydd i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Er y bydd y broses hon ar wahân i'r broses ceisiadau cynllunio, bydd angen cynnal trafodaethau ac ymgynghori rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a'r datblygwr o'r cam cyn-ymgeisio er mwyn sicrhau addasrwydd Dyluniad Systemau Draenio Cynaliadwy yn unol â Safonau Cenedlaethol, cynllun safle digonol ac yn y pen draw gymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.
Gall trafodaeth cyn ymgeisio helpu i sicrhau bod yr ymgeiswyr yn gwbl ymwybodol o'r gofynion o'r cychwyn cyntaf, gan gyfyngu ar yr oedi cyn cymeradwyo a lleihau costau yn yr hir-dymor.Ìý
A yw'n bosibl i mi gael mwy o wybodaeth am Systemau Draenio Cynaliadwy?
Wrth i ni agosáu at y broses weithredu byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth ar y wefan hon, gan gynnwys manylion y broses ymgeisio a chymeradwyo.
Mae'r tudalennau gwe canlynol yn adnodd defnyddiol am ddim i gael mwy o wybodaeth am Ddraenio Cynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu llawer o wybodaeth am y broses weithredu ac mae ar gael ar eu gwefan yn
Os hoffech gael rhagor o am y broses newydd hon, mae croeso i chiÌý