ąű¶ł´«Ă˝app

Diogelu Oedolion Archolledig

Gwybodaeth gyffredinol

Ewch i wefan Byrddau Diogelu Gwent i gael gwybodaeth a chyngor am ddim ar Ddiogelu Plant ac Oedolion.

Mae gan bawb yr hawl i’w urddas dynol, parch ac i fyw eu bywyd heb gamdriniaeth ac esgeulustod.

Gallai amddiffyn y bobl fwyaf archolledig yn y gymdeithas, pan maent angen cael eu hamddiffyn, sicrhau ansawdd bywyd gwell ar gyfer nifer o bobl. Gall rhai oedolion fod yn archolledig i gamdriniaeth ac efallai bod eu hawliau dynol yn cael eu diystyru yn rheolaidd.

Mae’r Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, y bwrdd iechyd, rheolyddion, a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn gweithio gyda’i gilydd ac yn ymrwymedig i sicrhau bod oedolion archolledig yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, ac yn cymryd camau yn syth lle bo angen i gadw oedolion archolledig yn ddiogel rhag niwed.

Pwy all fod yn oedolyn archolledig?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi ystyr “oedolyn archolledig” fel oedolyn sydd:

(a) yn dioddef neu mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod,

(b) ganddo anghenion am ofal a chymorth (os yw’r awdurdod yn diwallu’r anghenion hynny neu beidio), ac

(c) o ganlyniad i’r anghenion hynny yn methu amddiffyn ei hun rhag cam-drin neu ei esgeuluso rhag risg iddo.

Gall hyn gynnwys pobl ag anableddau corfforol, dysgu neu synhwyraidd. Mae’r ffactorau gall gynyddu’r risg o fod yn archolledig gynnwys oedran, problemau iechyd y meddwl, salwch cronig, ymddygiad heriol, diffyg galluedd meddyliol, problemau cymdeithasol ac emosiynol, tlodi, digartrefedd neu gamddefnyddio sylweddau.

Beth yw camdriniaeth?

Camdriniaeth yw pan mae rhywun yn dweud neu’n gwneud pethau sy’n eich brifo chi, eich cynhyrfu, codi ofn arnoch neu yn achosi niwed corfforol. Gall camdriniaeth amrywio o driniaeth sy’n diystyru eich hawliau dynol a sifil, achosi dioddefaint meddyliol neu gorfforol i chi ac sydd yn effeithio’n sylweddol ar eich ansawdd o fywyd.

Gall camdriniaeth ddigwydd unrhyw le - mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, cartref person, mewn canolfan dydd neu sefydliad addysgol, mewn tai â chymorth neu ar y stryd.

Mae ffurfiau o gamdriniaeth yn cynnwys:

Camdriniaeth gorfforol, fel bwrw, gwthio, pinsio, ysgwyd, defnyddio gormod o feddyginiaeth neu atal rhywun rhag cymryd eu meddyginiaeth.

Camdriniaeth rywiol, fel gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol digroeso, cyffwrdd amhriodol, trais, ymosodiad rhywiol neu weithgareddau rhywiol nad ydych wedi rhoi eich caniatâd iddynt i ddigwydd neu lle rhoddwyd pwysau arnoch i roi caniatâd iddynt i ddigwydd.

Camdriniaeth seicolegol neu emosiynol fel cael eich dychrynu, bygwth, camdriniaeth neu bychanu ar lafar, cael eich beio, rheoli neu aflonyddu, cael eich anwybyddu ar bwrpas neu eich atal rhag cael ffrindiau, teulu, gwasanaethau neu gymorth.

Esgeulustod fel anwybyddu eich anghenion meddygol neu gorfforol, atal mynediad i wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol, ddim yn gofalu amdanoch yn gywir, ddim yn eich darparu â digon o fwyd neu’n eich rhoi mewn perygl.

Gallai unrhyw un o’r ffurfiau hyn o gamdriniaeth fod yn fwriadol neu fod o ganlyniad i anwybodaeth, neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth. Weithiau gall pobl gael eu cam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Pwy all achosi camdriniaeth?

Gallwch adnabod y person sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth a gallai fod yn:

  • Gofalydd neu wirfoddolwr/wraig sy’n cael eu talu.
  • Gweithiwr/wraig iechyd, gofal cymdeithasol neu weithiwr/wraig arall. Ffrind neu gymydog.
  • Preswylydd arall neu ddefnyddiwr/wraig gwasanaeth.
  • Perthynas – mae edrych ar Ă´l oedolyn archolledig yn gallu bod yn anodd. Gall gofalyddion deimlo’n unig ac o dan bwysau ambell waith. Rhywun sy’n ecsbloetio pobl archolledig yn fwriadol.
  • Unrhyw un arall sydd â mynediad at y person dan sylw

Beth ddylwn i wneud?

Os ydych yn cael eich cam-drin neu os ydych yn meddwl bod rhywun arall yn cael eu cam-drin, rhaid i chi ddweud wrth rywun. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bydd rhywun arall yn dweud a pheidiwch â phoeni os ydych yn meddwl eich bod yn anghywir - mae dal yn bwysig bod rhywun â phrofiad a chyfrifoldebau yn edrych i mewn i’r mater. Cyfrifoldeb y gwasanaethau cymdeithasol yw gwneud hyn.

Os ydych chi neu os ydych yn adnabod rhywun sy’n cael eu cam-drin ac sydd mewn perygl, rhaid i chi wneud rhywbeth yn syth er mwyn eu hatal nhw neu eraill rhag cael eu niweidio. Dylech ffonio 999 a dweud wrth y gweithredydd beth sy’n digwydd.

Os ydych yn meddwl bod trosedd wedi digwydd, fel trais, ymosodiad neu ladrad, ffoniwch yr heddlu a gwnewch yn siŵr nad ydych wedi symud neu ddinistrio unrhyw dystiolaeth.

Os ydych yn poeni am gysylltu â’r heddlu gallwch wastad gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol er mwyn trafod pethau yn gyntaf. Os ydych yn pryderu am siarad â gwasanaethau cymdeithasol gallech ofyn i rywun i siarad â ni ar eich rhan. Gall fod yn nyrs, gofalydd, eiriolwr/wraig, ffrind neu berthynas rydych yn ymddiried ynddynt.

Lle bynnag rydych yn byw, dim ots os ydyw’n gartref gofal neu gartref eich hunan neu le bynnag rydych wedi ymweld, os ydych wedi profi neu weld camdriniaeth, gallwch ffonio gwasanaethau cymdeithasol.

Efallai bydd aelodau staff sy’n gweithio gydag oedolion archolledig yn pryderu am y canlyniadau o roi gwybod am gamdriniaeth. Rhaid i chi ddweud wrth rhywun beth sydd yn digwydd.

Does dim rhaid i chi ddweud pwy ydych chi, ond gall hyn ei gwneud hi’n anoddach i ni i archwilio ac amddiffyn naill ai chi neu’r person sy’n cael eu cam-drin.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi gwybod am y gamdriniaeth?

Pan fydd rhywun yn roi gwybod am gamdriniaeth bydd ymholiadau yn cael eu cynnal a fydd yn dilyn Polisïau a  Gweithdrefnau ar gyfer Diogelu Oedolion Archolledig Cymru, a gall arwain at archwiliad ffurfiol. Gall gynnwys nifer o asiantaethau fel y gwasanaethau iechyd neu’r heddlu. Bydd camau’n cael eu cymryd wedyn i sicrhau eich bod chi neu’r person sy’n cael eu cam-drin yn cael eich diogelu/eu diogelu.

Bydd cymorth a chyngor yn cael eu cynnig i chi er mwyn eich helpu i wneud unrhyw benderfyniadau a’ch galluogi i gymryd camau i roi terfyn ar y gamdriniaeth a sicrhau nad ydyw’n digwydd eto. Bydd unrhyw beth sy’n cael ei ddweud yn cael ei drin mewn modd sensitif, ond efallai rhennir y wybodaeth â phobl eraill er mwyn iddynt fedru helpu i archwilio.

Cyfrinachedd

Pan wneir honiad, bydd yna wybodaeth efallai y bydd rhaid i ni ei rannu ag eraill, fel yr heddlu neu bobl sy’n monitro ansawdd gwasanaethau cofrestredig. Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod y wybodaeth ond yn cael ei rannu â’r bobl sy’n cymryd rhan yn y broses.

Manylion cyswllt:- Os oes gennych ofidion ynghylch oedolyn archolledig neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:

Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent:

rhif ffôn:  01495 315700
±đ-˛ú´Ç˛őłŮ:Ěý info@blaenau-gwent.gov.uk
ffacs: 01495 315265minicom:  01495 355959

Os ydych yn byw yng Nghaerffili:

rhif ffôn:  01443 864563
±đ-˛ú´Ç˛őłŮ:Ěý povateam@caerphilly.gov.uk
ffacs: 01443 864664

Os ydych yn byw yn Nhorfaen:

rhif ffôn:  01495 762200
e-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk
ffacs: 01633 648794

Os ydych yn byw yng Nghasnewydd:

rhif ffôn:  01633 656656
e-bost: info@newport.gov.uk

Os ydych yn byw yn Sir Fynwy:

rhif ffôn:  01291 638928
±đ-˛ú´Ç˛őłŮ:Ěý monpovaduty@monmouthshire.gcsx.gov.uk

Os oes argyfwng ac mae angen i chi gysylltu â ni tu allan i oriau’r swyddfa ffoniwch ein Tîm Dyletswydd Brys ar: 0800 328 4432

Gallwch gael mwy o wybodaeth ar y linc isod: 

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

FfĂ´n: 01495 315700
·ˇ-˛ú´Ç˛őłŮ:ĚýDutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
·ˇ-˛ú´Ç˛őłŮ:Ěýinfo@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB