Cyngor ar Ddiogelwch Ffordd ar gyfer Gyrwyr Ifanc, Teithwyr a Darpar Yrwyr
Mae Mega Drive yn rhaglen hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed a all fod yn bwriadu sefyll eu prawf gyrru ymarferol yn y dyfodol gweddol agos ac efallai heb fod yn gwybod am yr holl beryglon posibl sy'n rhan o yrru ar ffyrdd Prydain.
Trefnir y cynllun gan D卯m Diogelwch Ffordd Blaenau Gwent a chaiff ei ariannu gan grant diogelwch ffordd gan Lywodraeth Cymru.
I rai myfyrwyr gallai hyn fod eu profiad cyntaf o yrru car a bydd y cwrs yma'n rhoi'r hyder iddynt fynd tu 么l i'r olwyn a rhoi ystyriaeth i ddifrifol i ddysgu gyrru.
Beth sy'n digwydd yn Mega Drive?
Mae myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn Mega Drive yn ymweld 芒 "gorsafoedd gwaith rhyngweithiol" lle maent yn dysgu gwybodaeth hollbwysig ar bynciau cysylltiedig 芒 gyrru.
Mae hyn yn cynnwys:
- ymwybyddiaeth o beryglon聽
- achosion damweiniau聽
- effeithiau a chanlyniadau'r pump angheuol
- gyrru ar 么l yfed alcohol
- gyrru ar 么l cymryd cyffuriau
- gor-yrru
- defnyddio ff么n symudol a gyrru
- peryglon peidio gwisgo gwregys.
- beth hyn i'w wneud ar safle damwain
- sesiynau gyrru ymarferol gyda Hyfforddydd Gyrru Cymeradwy
Cyflwynir y gorsafoedd gwaith gan amrywiaeth o sefydliadau fel:
- Heddlu Gwent
- Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru
- Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy
- T卯m Diogelwch Ffordd Blaenau Gwent ac partneriaid awdurdodau lleol
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Traffic Safety Officers
Civic Centre,
Ebbw Vale,
NP23 6XB
Tel No: 01495 355378