Gallwn ddarparu copi o dystysgrifau ar gyfer pob genedigaeth, marwolaeth a phriodas a ddigwyddodd yn ardal Blaenau Gwent yn dyddio'n ôl i 1837.
Pa wybodaeth sydd angen i mi ei rhoi pan fyddaf yn archebu tystysgrif?
Ar gyfer genedigaeth:
- Enw llawn y person, y dyddiad geni, man geni ac enwau'r rhiant/rhieni a chyfenw'r fam cyn priodi
Ar gyfer marwolaeth
- Enw llawn yr ymadawedig, dyddiad y farwolaeth a man y farwolaeth
Ar gyfer priodas/partneriaeth sifil:
- Enwau llawn y briodferch a'r priodfab/partneriaid sifil, dyddiad priodas, enw'r eglwys neu safle lle cynhaliwyd y briodas/partneriaeth sifil.
Ble fedraf gael copïau o dystysgrifau?
Gellir archebu copïau o dystysgrifau o'r Swyddfa Gofrestru, Tŷ Bedwellte. Canfod manylion parcio ac oriau agor y swyddfa gofrestru.