Dan Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, mae'n rhaid i unrhyw un sy'n dymuno cael dinasyddiaeth Brydeinig fynychu seremoni dinasyddiaeth. Mae'n rhaid i ddinasyddion newydd gymryd llw neu gadarnhad teyrngarwch i'r Frenhines ac addo teryngarwch i'r Deyrnas Unedig.
Sut mae archebu seremoni dinasyddiaeth?
Os bu'ch cais yn llwyddiannus, bydd y Swyddfa Gartref yn cysylltu â chi i'ch gwahodd i fynychu seremoni dinasyddiaeth. Mae Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent yn cynnig cyfle i rai a wnaeth gais llwyddiannus i ddod yn ddinesydd Prydeinig i fynychu seremoni Dinasyddiaeth yn y Swyddfa Gofrestru ym Mlaenau Gwent. Canfod manylion parcio ac amserau agor swyddfa gofrestru.
Ble dylwn i fynd am y seremoni?
Dylech wirio eich llythyr gwahoddiad i'r seremoni a anfonwyd atoch gan y swyddfa gofrestru. Mae hyn yn cadarnhau dyddiad, amser a lle eich seremoni dinasyddiaeth.
Faint yw cost seremoni dinasyddiaeth?
Mae'r ffi a dalwch i'r Swyddfa Gartref pan wnewch gais am ddinasyddiaeth yn cynnwys cost y seremoni. Caiff hyn ei gynnal mewn grwpiau fel arfer i gadarnhau natur gymunedol dinasyddiaeth.
Gallwch drafod eich seremoni dinasyddiaeth drwy gysylltu â Swyddfa Gofrestru Blaenau Gwent.