Gallwch ymgeisio ar-lein, neu yn un o'r Hybiau Cymunedol yn bersonol.
(ar gov.uk)
Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 am help a gwybodaeth.
Unwaith i ni dderbyn eich cais, gofynnir ichi aros i dderbyn ymateb gennym ac i beidio â phostio unrhyw wybodaeth bersonol oherwydd ni fedrwn dderbyn cyfrifoldeb dros unrhyw eitemau sy’n cael eu colli neu ei difrodi yn y post.
Prawf adnabod
Rhaid i chi ddarparu un o’r mathau canlynol o’r dulliau adnabod, a rhaid iddo gael ei wirio gan berson sydd wedi’ch adnabod am o leiaf 2 flynedd ac nad sy’n aelod o’r teulu neu’n ffrind:
- Tystysgrif geni neu fabwysiadu
- Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymiad
- Tystysgrif priodas/ysgariad
- Pasbort cyfredol
- Trwydded yrru ddilys Â
Prawf o gyfeiriad
Rhaid i chi ddarparu copi o un o’r canlynol fel prawf o’ch cyfeiriad:
- Llythyr o gadarnhad o’r gwasanaethau cymdeithasol
- Bil treth y cyngor wedi’i dyddio o fewn y 12 mis diwethaf
- Trwydded yrru ddilys
Rydym hefyd angen llun diweddar, main pasbort. Rhaid i’r llun fod o’r un safon â’r sawl sy’n cael eu defnyddio mewn pasbortau a rhaid ysgrifennu’ch enw yn glir ar y cefn
Pa dystiolaeth ydw i’n gallu darparu i gefnogi fy nghais?
Prawf o gymhwysedd. Mae’r rhain yn wahanol ar gyfer cymhwysedd awtomatig ac yn ôl disgresiwn ac mae esboniad ohonynt ym
Does dim tâl ar gyfer y bathodyn glas cyntaf a gyhoeddir i bobl sy’n byw’n barhaol yng Nghymru.
Adnewyddiadau
Rhaid adnewyddu bathodynnau bob tair blynedd.
Gwybodaeth Gyswllt
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent