Grŵp Cydweithredu Cymorth Tai Rhanbarthol Gwent (‘y Grŵp’)
²Ñ²¹±ð’r rhaglen Grant Cymorth Tai yn rhaglen ymyriad cynnar sy’n cyllido ystod eang o wasanaethau cymorth cysylltiedig â thai a digartrefedd ar gyfer pobl mewn risg o fod yn ddigartref ar draws Gwent ac mae’n cefnogi gweithgaredd i helpu pobl sefydlogi eu sefyllfa tai, atal pobl rhag dod yn ddigartref neu’n helpu pobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt i ganfod a chadw llety.
Gweledigaeth y Rhaglen Cymorth Tai yw:
“Cymru lle nad oes neb yn ddigartref a lle mae gan bawb gartref diogel lle gallant ffynnu a byw bywyd bodlon, egnïol ac annibynnolâ€.
Mae natur ataliol y rhaglen yn cefnogi amcanion polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Mae gwasanaethau Grant Cymorth Tai yn helpu i atal digartrefedd, allgau cymdeithasol, ynysigrwydd a sefydliadu. Mae gwasanaethau hefyd yn helpu i ostwng troseddu ac anrhefn.
²Ñ²¹±ð’r Grŵp yn rhoi fforwm i bartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol, iechyd, y gwasanaeth prawf, darparwyr grant cymorth tai a landlordiaid i ddod ynghyd i drafod a chytuno ar weithio ar y cyd sy’n well o gael ei ddarparu’n rhanbarthol. Mae hyn yn sicrhau fod cynllunio a chomisiynu gwasanaethau a gyllidir gan y Grant Cymorth Tai yn gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r Grant Cymorth Tai ac yn ateb anghenion lleol. ²Ñ²¹±ð’r Grŵp yn ymroddedig i ddarparu gweithio rhanbarthol sy’n rhoi deilliannau diriaethol a all effeithio ar newid.
Adeiladwyd strwythur y Grant Cymorth Tai ar gyfrifoldebau awdurdodau lleol unigol i asesu anghenion, cynllunio’n strategol a chynnig gwasanaethau sy’n gwella iechyd a llesiant pobl Cymru drwy atal digartrefedd, gostwng y galw ar wasanaethau cyhoeddus eraill a chynyddu capasiti aelwydydd. Fodd bynnag, er y cydnabyddir rheolaeth ddemocrataidd yr awdurdodau unigol, mae pethau pwysig a gaiff eu gwneud orau drwy gydweithredu rhyngddynt. Yn neilltuol, disgwylir i Grwpiau Cydweithredu Cymorth Tai Rhanbarthol i:
- Datblygu gwasanaethau arbenigol nad oes mas critigol ar eu cyfer yn lleol
- Datblygu gwasanaethau rhanbarthol lle mae arbedion maint yn cyfiawnhau hynny
- Sicrhau gwelliannau i’w cyflawni drwy gydweithredu
- Cydweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill
Mae Grŵp Cydweithredu  Cymorth Tai Gwent Rhanbarthol yn cynnwys awdurdodau lleol Blaenau went, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Torfaen.
Mae chwe Grŵp yng Nghymru:
- Bro Morgannwg a Chaerdydd
- Gwent
- Canolbarth a Gorllewin
- Gorllewin Morgannwg
- Cwm Taf Morgannwg
- Gogledd Cymru
²Ñ²¹±ð’r Canllawiau Grant Cymorth Tai: Canllawiau Ymarfer ar gyfer Awdurdodau Lleol o fis Ebrill 2020 (diweddarwyd Mawrth 2021) yn disgrifio gwaith y Grwpiau Cymorth Tai Rhanbarthol a’r tirlun gweithio rhanbarthol yn fwy manylion.
Dogfennau Cysylltiedig:
- Canllawiau ar y Grant Cymorth Tai
- Grŵp Cydweithredu Cymorth Tai Rhanbarthol (RHSCG) Gwent Cylch Gorchwyl 2022-23
- Cofnodion Grŵp Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol Gwent 2022-2023
- Grŵp Cydweithredu Cymorth Tai Rhanbarthol Gwent 2022-23
- Arolwd Defnyddwyr Gwasanaeth Cymorth Tai Gwent 2021
- Arolwg Rhanddeiliaid 2021
Gwybodaeth Gyswllt
Angela Lee
Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gwent
Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Llys yr Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Ffôn: (01495) 354685
Ebost : angela.lee@blaenau-gwent.gov.uk
Twitter:
  Â