Cyfleusterau
- Mae Cwrt Mytton yn Ganolfan Gwasanaethau Cymdeithasol Cartref Preswyl EMI sy’n darparu ar gyfer pobl hŷn dementia.
- Dyluniwyd yr adeilad i wneud bywyd yn ddymunol ac yn gyfleus i breswylwyr a’u hymwelwyr. Mae’r ystafelloedd ar 2 lawr ac fe’u gwasanaethir gan lifft.
- Cartref yn y oddi ar Stryd Alma, yn yr agos i ganol y dref.
- Mae 35 o ystafelloedd. Mae’r rhain yn cynnwys ystafelloedd sengl gyda chyfleusterau en-suite neu unedau ymolchi, ac mae cyfleusterau toiledau gerllaw.
- Mae gan bob swît o ystafelloedd ei ystafell ymolchi eu hunain, a gafodd eu haddasu i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anghenion corfforol, gan roi diogelwch, preifatrwydd a chysur. Mae hefyd doiledau ychwanegol ym mhob ardal, ystafelloedd eistedd a chyfleusterau cegin lle gallwch wneud eich snaciau a’ch diodydd poeth.Â
- Lleolir yr ystafelloedd eistedd cymunedol, yr ystafell fwyta, y gegin, yr ystafell trin gwallt a’r golchdy yn ardal ganolog y Cartref.
- Gosodwyd system alw/larymau ym mhob ystafell.
- Mae lolfa ymwelwyr ar gael gyda chyfleusterau gwneud te/coffi.
Staff
- Mae yma dîm o swyddogion (gan gynnwys swyddog clerigol), cynorthwywyr gofal, cynorthwywyr domestig, golchdy a chogyddion.
- Mae’r staff yn derbyn hyfforddiant ar gyfer y tasgau maent yn eu cyflawni a chânt gyfleoedd pellach i dderbyn hyfforddiant i ddatblygu’u sgiliau.
- Caiff y staff eu harolygu’n rheolaidd ar sail un i un.
- Mae grŵp mawr o staff ymrwymedig/gyda 4 uwch swyddog. Yn ystod y dydd mae aelod staff ar ddyletswydd ym mhob ardal o’r cartref gyda 4 aelod o’r staff ar ddyletswydd ar gyfer y Cartref drwy gydol y nos.
Gwasanaethau
- Gofal hirdymor: 35 o lefydd ar gael.
- Gofal tymor byr: 2 le ar gael.
- Mae’r staff yn cynnig cymorth gyda phob gofal personol, rhoi bath, ymolchi, eillio a gwisgo.
- Darperir gwasanaeth golchdy a bydd y staff hefyd yn gwneud unrhyw wnïo neu gyweirio.
- Gofal Meddygol
- Gallwch barhau i ddefnyddio gwasanaethau’ch meddyg (Meddyg Teulu) os yw yn gallu darparu gwasanaeth ar eich cyfer. (Gallech fod wedi symud allan o ardal eich meddyg).
- Gall nyrsys sy’n gweithio yn y gymuned a meddygon ymgynghorol arbenigol ymweld â’r cartref, os cwyd yr angen.
Addoliad crefyddol
Mae mewnbwn oddi wrth Gyngor yr Eglwysi sy’n darparu rota i sicrhau y cynigir i Gwm Mytton a’i breswylwyr y dewis o addoli o fewn eu henwad Cristnogol dewisedig. Telir ymweliadau rheolaidd gan aelodau o’r Eglwys Babyddol a’r Eglwys yng Nghymru i gynnig Cymundeb. Petai angen, cysylltir gydag arweinwyr credoau eraill i sicrhau y darperir ar gyfer defodau crefyddol unigol priodol eraill.
Prydau a Gwasanaethau Eraill
- Mae’r rhain yn hyblyg gyda dewis o fwydlen a chaiff dietau a dewisiadau arbennig eu diwallu. Gellir gweini prydau yn yr ystafell fwyta neu yn eich ystafell wely os mai dyna fydd y flaenoriaeth.
- Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys ffôn cyhoeddus ac ymweliad dwywaith yr wythnos gan berson trin gwallt sy’n codi pris rhesymol iawn.
- Gall staff gynorthwyo gydag ymweliadau ag ysbytai, ciropodyddion, deintyddion ayb, os bydd angen.
- Rhedir y cartref yn ddemocrataidd fel bod pawb yn cyfrannu ac yn rhannu unrhyw benderfyniad a wneir.
Costau
Fe’u gosodir yn unol â fformiwla a gytunwyd yn genedlaethol.
Cysylltiadau Cymunedol
Mae cysylltiadau cymunedol Cwrt Mytton drwy’i weithgareddau cymdeithasol. Nod Cwrt Mytton yw bod gan breswylwyr yr hawl i ddisgwyl a phrofi safon uchel o ofal personol ac emosiynol. Darparwn yr help a chefnogaeth y maent ei angen i fyw’r math o fywyd sy’n gweddu iddynt ac yn eu plesio a gofal arbenigol ar gyfer y rhai gyda dementia.
Nod
Ein nod yw darparu EMI gofal preswyl ansawdd uchel 24 awr ar gyfer pobl hŷn a phobl gyda dementia tra’n cefnogi a chynnal eu hannibyniaeth a’u dewis.
Gweithgareddau
Dewisir yr holl weithgareddau yn y Cartref ar y cyd gan breswylwyr a staff. Cânt eu trefnu ar gyfer grwpiau neu ar gyfer unigolion ac maent yn cynnwys:
- Cyfarfodydd cymdeithasol.
- Cwis wythnosol.
- Cyngherddau.
- Corau.
- Dominos, cardiau a gemau bwrdd.
- Dartiau, bingo a chrefftau.
- Barbeciws.
- Partïon Nadolig a phen-blwydd.
- Boreau coffi ar gyfer perthnasau a ffrindiau.
- Nosweithiau fideo.
- Teithiau i ganolfannau siopa, sioeau, cyngherddau, bwytai a thafarndai.
- Ymweliadau â llyfrgell symudol, cyfnewid llyfrau a ffilmiau fideo ar gael.
Ffynonellau Cymorth
Pe byddech yn dymuno ymweld â Chwrt Mytton i dderbyn mwy o wybodaeth a fyddech gystal â chysylltu â:
Chwrt Mytton
Stryd Alma
Abertyleri
NP13 1QA
Ffôn: (01495) 217736
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Adeiladau’r Llywodraeth
Parc Busnes Rhydycar
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Ffôn: 0300 062 8888
Dogfennau Cysylltiedig
- Herbert Protocol - Flowchart
- Herbert Protocol - Contact Form
- Herbert Protocol - Locality Form
- Herbert Protocol - Incident Form
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:ÌýDutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285