Mae gan Blaenau Gwent ddau gynllun Gofal Ychwanegol ar gyfer pobl hÅ·n, sef Llys Glyncoed a Llys Nant y Mynydd.
Llys Glyncoed
Heol y Coleg, Glynebwy NP23 6LD
Darperir gofal yn y cartref i ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn eu fflatiau hunangynwysedig eu hunain. Mae pob fflat yn hygyrch i gadair olwyn ac mae ganddynt ystafelloedd ymolchi en-suite a cheginau wedi'u gosod.
Linc Cymru yw perchennog yr adeilad a Chyngor Blaenau Gwent sy'n darparu'r tîm Gofal.
Llys Nant y Mynydd
Heol yr Ysbyty, Nantyglo, NP23 4LY
Mae Llys Nant y Mynydd yn gynllun tai Gofal Ychwanegol sy'n galluogi pobl dros 50 oed i fyw'n annibynnol yn eu fflatiau eu hunain. Caiff tenantiaid iau gydag anabledd corfforol hefyd eu hystyried ar gyfer un o'r 4 fflat byw annibynnol o fewn y cynllun.
United Welsh yw perchennog yr adeilad ac mae staff y safle yn cynnwys rheolwr a derbynnydd (Llun - Gwener) yn ogystal â thîm gofal yn y cartref a ddarperir gan Gyngor Blaenau Gwent.
I gael mwy o wybodaeth dilynwch y dolenni yn y blwch safleoedd cysylltiedig.
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
·¡-²ú´Ç²õ³Ù:ÌýDutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB
Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285
Ìý
Ìý