¹û¶³´«Ã½app

Chwiliwch am wasanaethau yn y gymuned I’ch cefnogi chi a’ch teulu - Dewis Cymru

Dewis Cymru

Dewis CymruÌý²â·É’rÌýlle i fyndÌýos ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.

Wrth sôn am eich llesiant, nid eich iechyd chi yn unig sydd dan sylw. Rydym yn golygu pethau fel ble rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan ac o gwmpas y lle, a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau.

Nid oes dau unigolyn sydd yr un fath ac mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Felly maeÌýDewis CymruÌýyma i’ch helpu i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n bwysig iÌýchi.

Mae gennym ni wybodaeth sy’n gallu eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal chi sy’n gallu’ch helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.

Os hoffech chi wybod mwy am sut i ddefnyddioÌýDewis CymruÌýi’ch helpu i benderfynu beth sy’n bwysig i chi, cliciwchÌý.

Os oes gennych chi wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u llesiant, gallwch chi ychwanegu’ch manylion chi atÌýDewis Cymru, er mwyn i bobl rydych chi am eu helpu a’u cefnogi ddod o hyd i chi’n haws. Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach ydych chi, neu ai gwirfoddolwyr ydych chi - os ydych chi’n helpu pobl gyda’u llesiant, maeÌýDewis CymruÌýeisiau gwybod amdanoch chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud, er mwyn i ni gyfeirio pobl i gysylltu â chi!

Os hoffech chi ychwanegu manylion eich gwasanaeth chi atÌýDewis Cymru, cliciwchÌý.

Pam cafoddÌýDewis CymruÌýei greu?

Un o’r rhesymau drosÌýDewis CymruÌý²â·É’r gyfraith newydd am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru – Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru. Bydd y gyfraith newydd hon yn gwneud bywyd yn well i bobl a’u gofalwyr, drwy wneud yn siŵr bod pobl yn derbyn yr help mae arnyn nhw ei angen i arwain bywyd da. Os hoffech chi ddysgu mwy am y Ddeddf, gwyliwch y fideo isod.

Codi pryderon am wasanaethau gofal cymdeithasol neu ddarparwyr gofal

Ìýsy’n gyfrifol am sicrhau bod pob gwasanaeth gofal yn ddiogel i’r bobl sy’n ei ddefnyddio. Mae’r Arolygiaeth ynÌýÌýgwasanaethau cynghorau lleol a’r sector gwirfoddol, yn ogystal ag asiantaethau gofal personol (cartref) a chartrefi gofal preswyl sydd mewn perchnogaeth breifat. Ymholiadau cyffredinol: 0300 7900 126.

Rôl debyg sydd ganÌý, ond ffocws y Cyngor yw sicrhau bod gan y gweithlu sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol – y gweithwyr cymdeithasol a’r gweithwyr gofal – gymwysterau, sgiliau a chymhwysedd. Ffoniwch: 0300 303 3444.

Related Documents

Gwybodaeth Cyswllt

Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Gwasanaethau Plant IAA Hub
Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys yr Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
Blaenau Gwent
NP13 1DB

E-bost:ÌýDutyteam@blaenau-gwent.gov.uk 01495 355700

Adults Services IAA Hub
Gwasanaethau Cymdeithasol
Canolfan Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu’r Cymoedd,
Parc Busnes Tredegar,
Tredegar,
Blaenau Gwent,
NP22 3EL.

E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.ukÌý01495 355700