¹û¶³´«Ã½app

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Cwestiynau Cyffredin

Beth mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ei wneud?

Mae'n uno ac yn moderneiddio cyfreithiau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n newid y ffordd mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu i wella llesiant pobl Cymru.

Bydd gennych fwy o lais mewn penderfyniadau am eich gofal, gan wneud penderfyniadau mewn partneriaeth gyfartal gyda'r gweithwyr proffesiynol.

Bydd modd i chi gael gwybodaeth a chyngor i’ch helpu.Ìý

Bydd sefydliadau fel awdurdodau lleol a'r GIG yn gweithio mewn partneriaeth i wneud systemau'n symlach ac yn fwy effeithlon.

Pryd bydd y Ddeddf yn dod i rym?

Daw'r Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016.

Beth yw ystyr "llesiant"?

Mae llesiant yn golygu eich bod yn hapus, yn iach ac yn gysurus gyda'ch bywyd a'r hyn rydych chi'n ei wneud. Mae'r Ddeddf yn gosod diffiniad o lesiant ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu i edrych ar y canlyniadau llesiant y gall pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cymorth, ddisgwyl eu cyflawni.

ÌýÌý

Ond beth os nad ydw i'n meddwl y caiff fy llais ei glywed yn iawn?

Gall eich teulu a’ch ffrindiau gymryd rhan mewn trafodaethau a’ch helpu.

Os nad yw hyn yn opsiwn i chi, bydd modd i chi ddefnyddio gwasanaethau eirioli.

A fydd pobl yn fwy diogel?

Bydd Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn ystyried effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws Cymru.

Byddant yn monitro perfformiad ledled y wlad ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru am welliannau y gellid eu gwneud.

Mae deddfau i ddiogelu oedolion a phlant rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi'u cryfhau.

Rwy'n derbyn gofal a chymorth, neu gymorth. A fydd hyn yn dod i ben ym mis Ebrill 2016?

Na fydd. Bydd eich gofal a’ch cymorth yn parhau fel ag y mae, ac fe fyddwch yn dilyn y broses newydd yn eich adolygiad nesaf.

Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael yr help sydd ei angen cyn ei bod yn argyfwng?

Bydd yr awdurdod a'r bwrdd iechyd lleol yn cydweithio i asesu'r boblogaeth a gweld pa ofal a chymorth sydd ei angen yn yr ardal. Bydd hyn yn dangos pa wasanaethau ataliol sydd eu hangen. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl. Rhaid i awdurdodau lleol annog pobl sy'n derbyn gofal a chymorth i ymuno yn y broses o lunio a darparu gwasanaethau, ynghyd â dulliau cyflawni eraill gan gynnwys; mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan eu defnyddwyr, a'r sector gwirfoddol.

Beth yw'r dulliau cyflawni eraill?

Mae menter gymdeithasol yn fusnes sy'n ail-fuddsoddi’r elw yn ei wasanaethau neu yn y gymuned.

Mae cwmni cydweithredol yn grwp o bobl sy'n gweithredu gyda'i gilydd yn wirfoddol i ddiwallu angen economaidd neu gymdeithasol yn eu cymuned.

Mae gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni gan ddefnyddwyr yn cael eu rhedeg a'u rheoli gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth.

Ceir gwybodaeth ar wefan Busnes Cymdeithasol Cymru ynghylch sut i sefydlu menter gymdeithasol.

Ìý

Beth sy'n wahanol am fy mhroses asesu?

Bydd asesiadau'n symlach, ac ar sail eich anghenion.
Byddant yn cael eu cwblhau mewn partneriaeth gyda chi a'ch teulu, a'r person proffesiynol sy'n gweithio gyda chi. Bydd sgwrs cael ei chynnal i benderfynu beth sy'n bwysig i chi a beth sydd ei angen arnoch i sicrhau eich llesiant. Bydd hyn yn ystyried eich cryfderau, a'r adnoddau a'r opsiynau sydd ar gael i chi - gan gynnwys unrhyw gymorth y gall yr awdurdod lleol ei ddarparu.

A fydd unrhyw newidiadau i Daliadau Uniongyrchol?

Bydd mwy o bobl yn medru derbyn Taliadau Uniongyrchol os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae hynny'n golygu y byddwch yn cael yr arian i drefnu eich gofal a'ch cymorth eich hun i sicrhau'ch canlyniadau llesiant, gan gynyddu'ch rheolaeth a'ch dewis personol.

Sut bydd sefydliadau yn cydweithio i wella llesiant?

Bydd rhaid i awdurdodau a byrddau iechyd lleol yn benodol gydweithio'n agos er mwyn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol mewn ffordd well. Gyda'i gilydd, byddant yn asesu gofynion gofal a chymorth yn eu hardaloedd gan nodi pa wasanaethau sydd eu hangen, a'u darparu.

Bydd rhaid i sefydliadau gydweithio mewn ffordd integredig wrth asesu a pharatoi gofal er mwyn osgoi dyblygu gwaith.

Os ydw i'n ofalwr, beth sy'n newid i mi yn benodol?

Fel gofalwr, bydd gennych yr un faint o hawl â'r person rydych yn gofalu amdano i gael eich asesu i weld pa gymorth sydd ei angen arnoch, ac i gael y lefel briodol o gymorth gan eich awdurdod lleol.

Rwy'n cael gofal maeth. Ydw i'n mynd i gael mwy o gymorth?

Os ydych chi a'ch teulu maeth am aros gyda'ch gilydd pan fyddwch yn cyrraedd 18 oed, byddwch yn cael cymorth i wneud hynny nes eich bod yn 21. Mae modd ymestyn hwn i'ch pen-blwydd yn 25 os ydych yn derbyn addysg neu hyfforddiant.

Oes unrhyw newid i'r broses fabwysiadu?

Sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn 2014. Mae'n dod â'r holl gynghorau lleol ynghyd i gydweithio gyda sefydliadau gwirfoddol yn y maes mabwysiadu yng Nghymru. Mae'r canlyniadau eisoes yn dangos bod y broses yn gynt bellach, a bod gwell cymorth ar gael i deuluoedd.

Oes unrhyw newid i'r ffordd rwy'n talu am ofal a chymorth?

Bydd y ffordd rydych yn talu am ofal os oes gennych y modd ariannol i wneud hynny yn unffurf ar draws Cymru - bydd un set o drefniadau asesu a chodi tâl ar gyfer pob oedolyn lle bo gofyn iddynt dalu am eu gofal.Ìý Bydd hyn ar gyfer gofal preswyl a dibreswyl.

Bydd pawb sy'n talu yn cael datganiad manwl yn egluro sut y cafodd y swm ei gyfrif, a bydd modd ei herio os oes angen. ÌýÌý

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gap ar y swm y gall cynghorau ei godi am ofal a chymorth dibreswyl - mae'r cap hwn yn dal i fod mewn bodolaeth, ac mae'n £60 yr wythnos.

Sut y byddwn yn gwybod bod os yw'r Ddeddf yn llwyddiannus?

Bydd awdurdodau lleol ar draws Cymru'n cofnodi eu perfformiad, ac yn medru cymharu eu hunain gydag ardaloedd eraill. Yna bydd modd iddynt ddysgu a gwella drwy rannu arfer da. Bydd Llywodraeth Cymru'n adrodd ar y cynydd tuag at lesiant mewn adroddiad blynyddol.

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Cysylltwch â ........ i gael rhagor o wybodaeth.

Manylion Cyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: mailto:dutyteam@blaenau-gwent.gcsx.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost:Ìýinfo@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB