¹û¶³´«Ã½app

Gwaith Cymdeithasol

Dathlu Gwaith Cymdeithasol

Rhwng 26 Chwefror a 24 Mawrth mae Gofalwn Cymru yn lansio ymgyrch sy’n ymroddedig i roi sylw i rôl hanfodol gwaith cymdeithasol. Mae Blaenau Gwent yn falch i gefnogi’r ymgyrch, gan adleisio ein gweithwyr cymdeithasol ymroddedig a dangos yr effaith enfawr sydd ganddynt ar ein cymuned.

Yn ystod yr ymgyrch, gwahoddwn chi i ymuno â ni i ddathlu gwaith ysbrydoledig ein gweithwyr cymdeithasol lleol. Drwy brofiadau bywyd go iawn, geirda o’r galon ac astudiaethau achos dylanwadol, anelwn godi cwr y llen ar gyfraniadau amhrisiadwy yr unigolion hynod yma.

Deallwn bwysigrwydd meithrin dealltwriaeth ddyfnach o rôl gweithwyr cymdeithasol a’r cyfleoedd y mae’n ei chyflwyno. Drwy gydweithio gyda Gofalwn Cymru, anelwn roi sylw i’r llwybrau amrywiol a’r posibiliadau gwerth chweil o fewn maes gwaith cymdeithasol

Wrth i ni anrhydeddu’r Wythnos Gwaith Cymdeithasol rhwng 18 a 22 Mawrth 2024, byddwn yn rhannu cynnwys sy’n amlygu angerdd, cydnerthedd ac ymroddiad ein gweithwyr cymdeithasol yma ym Mlaenau Gwent. Mae’r straeon hyn yn dyst i rym trawsnewidiol gwaith cymdeithasol a’i allu i gael effaith gadarnhaol ar fywydau’r rhai a wasanaethwn.

P’un ai ydych yn ystyried gyrfa mewn gwaith cymdeithasol neu ddim ond eisiau dysgu mwy am y proffesiwn, dyma’r amser perffaith i ymchwilio’r posibiliadau. Ymunwch â ni i ddathlu’r unigolion hynod sy’n ymgorffori hanfod trugaredd, empathi ac ymroddiad.

Gyda’n gilydd, gadewch i ni roi sylw i gyfraniad amhrisiadwy ein gweithwyr cymdeithasol ac ysbrydoli eraill i ystyried llwybr gyrfa sydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth. Ymunwch â ni i ddathlu’r Wythnos Gwaith Cymdeithasol ac effaith enfawr gwaith cymdeithasol ym Mlaenau Gwent.

Dyma Grace: Gweithiwr Cymdeithasol ymroddedig ym Mlaenau Gwent

Dyma Grace, Gweithiwr Cymdeithasol angerddol gyda Gwasanaethau Oedolion Blaenau Gwent. Gyda diddordeb diffuant mewn cefnogi a helpu pobl, mae Grace yn cael boddhad yn ei swydd bob dydd. Mae’n gwerthfawrogi’r berthynas y mae’n ei meithrin gyda phobl ac yn teimlo’n ffodus i fod yn rhan o dîm cefnogol ym Mlaenau Gwent. Edrychwch ar ei stori a darganfod effaith gwaith cymdeithasol yn ein cymuned.

Gallwch ddarganfod gwobrau gyrfa mewn gwaith cymdeithasol gyda’n adnodd PDF diddorol a defnyddiol. Mae hyn yn cynnwys y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso, timau Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, a’r adborth cadarnhaol a straeon llwyddiant gan ein gweithwyr proffesiynol ymroddedig.

Ymchwilio Gwaith Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent

Geirda i ysbrydoli gan Gweithwyr Cymdeithasol Blaenau Gwent

Gallwch ddarganfod grym trawsnewidiol gwaith cymdeithasol drwy eirda sy’n ysbrydoli gan ein gweithwyr proffesiynol ymroddedig ym Mlaenau Gwent. Mae’r adroddiadau go iawn yma yn dangos y cysylltiadau ystyrlon a chyfnodau o gydnerthedd sy’n diffinio ein gwaith.

Nicola Williams | Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol

“Nicola ydw i, Uwch Ymarferydd a gweithiwr cymdeithasol yn Nhîm 14+ Blaenau Gwent. Wedi dechrau fel gweithiwr cymorth yn 2012, rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr Awdurdod Lleol yn hybu fy ngyrfa. Mae fy swydd yn golygu grymuso plant a theuluoedd i fyw bywydau annibynnol. Er yr heriau, mae gweld eu llwyddiant yn werth y byd. Mae meithrin perthynas agos gyda nhw yn werthfawr tu hwnt. Gweld plant gyda chefndiroedd heriol yn ffynnu i fod yn oedolion hapus yw agwedd fwyaf werth chweil fy swydd a fy mhrif gymhelliant. Dydyn ni ddim yn ddewiniaid, ond rydyn ni’n grymuso teuluoedd i greu eu hud eu hunain!â€

Tia Cross | Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso

Mae bod yn weithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant ym Mlaenau Gwent wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae’r timau a Datblygu’r Gweithlu wedi bod mor gefnogol, ac rwyf wedi tyfu cymaint, hyd yn oed drwy’r heriau. Mae fy mentor gwaith cymdeithasol, Ioana, wedi bod yn wych wrth i mi drosglwyddo i weithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso. Yn bendant, mae gan Flaenau Gwent un o'r rhaglenni cymorth gorau ar gyfer myfyrwyr a Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso.

Nina Jones | Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso

Fel myfyriwr trydedd flwyddyn, bûm yn ffodus i gael tîm hynod gefnogol a’m harweiniodd  drwy fy natblygiad, gan ddarparu anogaeth a chyfleoedd dysgu amhrisiadwy. Nawr, fel Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso (NQSW), rwy'n ddiolchgar i fod yn rhan o'r un tîm gwych, maen nhw'n parhau i gynnig yr un lefel o gefnogaeth a mentoriaeth. Mae Blaenau Gwent wedi bod yn lle gwych i dyfu’n broffesiynol, ac mae’r ymroddiad i feithrin talent newydd yma yn wirioneddol glodwiw. Rwy’n teimlo fy mod wedi fy ngrymuso ac yn hyderus yn fy rôl diolch i arweinyddiaeth gyson ac ysbrydoliaeth gan fy nghydweithwyr. Er gwaethaf yr heriau, mae grymuso a chefnogi unigolion i fyw'n annibynnol yn hynod werth chweil.