Mae mabwysiadu’n fodd o ddarparu teulu newydd parhaol i blentyn sy’n methu byw gyda’i deulu naturiol am ba bynnag reswm.
mae mabwysiadu yn ymrwymiad oes i blentyn. Pan rydych yn mabwysiadu, rydych yn dod yn rhiant cyfreithiol i’r plentyn ac yn ymgymryd â’r holl ddyletswyddau a hawliau tuag at y plentyn â’r rhiant naturiol. Mae’n darparu parhauster a diogelwch bywyd teuluol sy’n ei wneud yn opsiwn positif ar gyfer plant.
Mae pobl yn dewis mabwysiadu am amrywiaeth o resymau, y mwyaf cyffredin yw i ofalu am blentyn a rhannu’r pethau da yn eu bywydau gyda phlentyn sy’n llai ffodus. Mae nifer o bobl wedi mynd trwy nifer o brofiadau cyn ystyried mabwysiadu ac i rai, mabwysiadau yw eu hunig opsiwn i gael plant. Mae methu cael plant yn naturiol yn gallu effeithio ar bobl yn fawr, felly i rai mae mabwysiadu plentyn yn gwneud i’w teulu deimlo’n gyflawn.
Ydw i’n gallu mabwysiadu?
Rydym yn croesawu diddordeb mewn mabwysiadu o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd. Y ffactor pwysicaf yw’ch gallu i gynnig cartref diogel a sefydlog i blentyn.
Ar gyfer y mwyafrif o bobl mae rheswm da i gredu y gallech fabwysiadu ac mae bob tro’n werth cael trafodaeth anffurfiol gydag un o’n gweithwyr mabwysiadu.
Mae rhai materion gallai awgrymu y dylech ystyried oedi’ch cais i fabwysiadu ac eraill sy’n ei wneud yn anodd i chi fabwysiadu. Prin yw’r sefyllfaoedd sy’n golygu y byddai’n annhebygol y gallech fabwysiadu.
Ìý
Mae’r manylion canlynol yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin a’r materion i’w hystyried.
Am ba fath o bobl ydyn ni’n edrych?
Fel yr awgrymir uchod, rydym yn croesawu pobl o amrywiaeth o gefndiroedd. Mae pobl o bob tras ethnig a chrefydd yn gall mabwysiadu, ynghyd â phobl sengl ac unigolion neu gyplau lesbiaid neu hoyw. Rydym yn edrych am fabwysiadwyr â’r egni corfforol ac emosiynol i ofalu am blant nawr ac yn yr hir dymor. Rydym angen pobl all gynnig gwir ymrwymiad at blant.
Oes angen i mi gael math penodol o lety?
Y peth pwysicaf yw eich bod yn gallu darparu digon o le ar gyfer plentyn neu blant yn eich cartref. Bydd angen i blentyn gael ei ystafell wely ei hun ac, yn dibynnu ar eu hoedran, lle i chwarae neu eu lle personol eu hun. Does dim rhaid i chi berchen eich tÅ·, gall fod ar rent ond rhaid i chi sicrhau bod eich tenantiaeth yn sefydlog ac yn ddiogel.
Oes unrhyw gyfyngiadau oedran ar gyfer mabwysiadu?
Yr isafswm oedran i fabwysiadu yw 21 mlwydd oed.Ìý Does dim uchafswm oedran ar i fabwysiadu ond rhaid i chi fod yn heini ac yn ddigon iachus i allu gofalu am blentyn o leiaf tan iddynt gyrraedd annibyniaeth. Felly, bydd eich oedran yn cael ei ystyried wrth ystyried oedran y plentyn y gallech ei fabwysiadu.
Oes rhaid i ni fod yn briod?
Nac oes, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sengl, dynion neu ferched, cyplau priod neu ddibriod, pobl sydd wedi ysgaru neu sy’n weddw. Os ydych yn ymgeisio i fabwysiadu fel cwpl, mae’n bwysig bod eich perthynas yn sefydlog ac yn hir dymor. Byddai hyn fel arfer yn golygu eich bod wedi byw gyda’ch gilydd yn eich perthynas am o leiaf dwy flynedd.
Ydw i’n gallu cael fy ystyried ar gyfer mabwysiadu tra’n cael triniaeth ffrwythlondeb?
I gael eich ystyried am fabwysiadu, bydd rhaid i chi fod wedi gorffen unrhyw archwiliadau neu driniaeth ffrwythlondeb a phenderfynu’n bendant mai nid dyma’r dewis i chi. Bydd angen i fod wedi gallu derbyn a dod i delerau gyda’r canlyniad. Mae hwn yn benderfyniad anodd i nifer o bobl ac mae’r amser sydd ei angen i ddod i delerau â’r sefyllfa yn amrywio i bawb. Rydym fel arfer yn argymell aros o leiaf chwe mis ar ôl eich triniaeth olaf cyn i chi ystyried mabwysiadu.
Beth am afiechydon neu gyflyrau iechyd?
Mae mabwysiadu yn gallu achosi straen a rhaid i bobl fod yn gallu ymdopi â’r sefyllfa yn gorfforol. Ar y cychwyn bydd angen i bob ymgeisydd fynd am archwiliad meddygol gyda’u doctor eu hun. Gall afiechyd difrifol neu gyflwr meddygol sy’n effeithio arnoch nawr neu sy’n debygol o ailddigwydd eich atal rhag parhau. Fodd bynnag, os ydych wedi gwella ar ôl afiechyd gyda phrognosis clir, gallwch dal i gael eich ystyried. Mae’n annhebygol y byddem yn parhau gydag ymgeisydd sy’n cael triniaeth am broblem iechyd meddwl difrifol a gychwynnodd yn ddiweddar. Gan fod pob sefyllfa’n wahanol, gofynnir ichi drafod hyn gyda ni i weld a allwch barhau gyda’ch cais.
Ydy hi’n gwneud gwahaniaeth os ydw i’n ysmygu?
Ni fyddwn yn gosod plant iau na 5 mlwydd oed neu blentyn o unrhyw oedran gyda phroblemau anadlu gyda darpar fabwysiadwyr sy’n ysmygu. Ar gyfer pob plentyn, byddai’n well pe byddent yn byw mewn awyrgylch di-fwg, felly efallai bydd yn anoddach uno ymgeiswyr sy’n ysmygu gyda phlentyn. Ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi rhoi’r gorau i ysmygu yn ddiweddar, rydym fel arfer yn disgwyl tystiolaeth eu bod wedi gallu gwneud hyn am o leiaf y 12 mis diwethaf.
Beth am gofnodion troseddol?
Bydd pawb yn y cartref sydd dros 18 yn cael ‘prawf heddlu’. Ni fydd unrhyw un gyda chollfarn am drais neu drosedd yn erbyn plentyn yn cael ei ystyried. Ni fydd collfarnau eraill yn y dyfodol o reidrwydd yn eich atal rhag mabwysiadu, mae’n dibynnu ar natur y drosedd a sawl blynedd sydd wedi mynd heibio. Y ffactorau pwysig fydd eich gweithrediadau ac ymddygiad ers y gollfarn ac a ydych yn gallu dangos tystiolaeth y byddwch ddim yn ailadrodd y drosedd. Mae’n bwysig trafod yr amgylchiadau gyda ni ar y cychwyn.
Oes rhaid i mi fod yn gyflogedig?
Nid yw’n ofyniad i ymgeiswyr fod yn gyflogedig, fodd bynnag, byddwn eisiau sicrhau eich bod yn sefydlog yn ariannol. Golyga hynny na fod gennych unrhyw ddyledion arwyddocaol na allwch eu rheoli neu’ch bod wedi cael eich bygwth o gael eich troi allan ac ati. Bydd angen i chi allu dangos tystiolaeth eich bod yn gallu darparu ar gyfer chi’ch hun a phlentyn neu blant.
Ydw i’n gallu parhau i weithio?
Y disgwyliad cyffredinol yw y bydd o leiaf un mabwysiadwr yn cymryd o leiaf chwe mis i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am blentyn (yn llawn amser) pan maen nhw’n dod i fyw gyda chi am y tro cyntaf. Yn y mwyafrif o achosion, mae gan mabwysiadwyr yr hawl i absenoldeb mabwysiadu o’u gwaith am 9 mis gyda 3 mis arall di-dâl ar ben hynny. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib bydd awdurdodau lleol yn talu lwfans mabwysiadu ychwanegol i chi i’ch galluogi i beidio â gweithio. Y peth pwysig yw eich bod ar gael i fod yno i setlo’ch plentyn i mewn i’ch teulu yn eu hamser eu hun.
Mae nifer fabwysiadwyr yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl y flwyddyn gyntaf ac yn llwyddo trefnu gofal plant ychwanegol; fodd bynnag, mae anghenion pob plentyn yn amrywio.
Beth os oes eisoes gennyf blant fy hun?
Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd eisoes â phlant. Mae gan rieni cyfredol sgiliau a phrofiad yn ymwneud â bod yn rhiant. Bydd angen i ni ystyried sut bydd plentyn mabwysiedig yn ffitio i mewn gyda’ch teulu. Mae’n ddoeth os yw plentyn mabwysiedig o leiaf dwy flynedd yn iau nag unrhyw blentyn sydd eisoes yn y teulu.
Beth yw’r rhesymau dros wrthod cais?
Cyn gwrthod unrhyw gais, byddwch yn cael cynnig cyfle i drafod eich amgylchiadau unigol, fodd bynnag, isod ceir rhestr o sefyllfaoedd pan fyddem yn annhebygol o barhau.
- Mae gennych gofnod troseddol am droseddau yn erbyn plant neu drosedd difrifol arall.
- Dydych chi ddim yn breswylydd yn y DU. Rhaid i chi neu o leiaf un o’r cwpl breswylio (preswylydd parhaol) yn y DU.
- Os ydych chi neu’ch partner o dan 21.
- Eich bod wedi cael plentyn eich hun a ‘gafodd ei gymryd i mewn i ofal’.
Nid yw’r rhestr uchod yn gynhwysfawr ac os oes gennych unrhyw bryderon yn benodol, cysylltwch â ni am gyng
Pryd nad yw hi’n amser da i ystyried mabwysiadu?
Er eich bod wedi penderfynu yr hoffech fabwysiadu, mae rhai rhesymau pam gallai fod yn syniad da i aros ychydig yn hirach:
- Os ydych yn cynllunio newidiadau mawr yn eich bywyd, megis symud tÅ· neu newid swydd.
- Rydych yn cael anawsterau ariannol.
- Rydych wedi dioddef marwolaeth yn eich teulu yn y flwyddyn ddiwethaf.
- Rydych yn cael triniaeth ffrwythlondeb ar hyn o bryd.
Mae’r uchod yn esiamplau o adegau sy’n gallu achosi straen yn eich bywyd. Cyn cychwyn y broses mabwysiadu, mae angen i chi deimlo’n hapus, wedi setlo a chael digon o ffocws a gwydnwch.
Gwybodaeth Gyswllt
Rhif Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350
Minicom: (01495) 355959
Ymholiadau am wybodaeth:
E-bost :Ìýinfo@blaenau-gwent.gov.uk
Ar gyfer atgyfeiriadau:
E-bost :ÌýDutyTeam@blaenau-gwent.gcsx.gov.uk