Er mwyn storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar neu o unrhyw safle, bydd angen i chi yn gyntaf fod wedi’ch cofrestru gyda’r Cyngor. Mae’r safleoedd sydd angen eu cofrestru yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd (sylwer, os gwelwch yn dda, nad yw hon yn rhestr faith).
Gallai fod angen i rai gweithgynhyrchwyr sy’n trafod cynnyrch ddaw o anifeiliaid orfod cael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Cyfeiriwch, os gwelwch yn dda, at dudalen Ceisiadau Hylendid Bwyd a Gymeradwywyd a Mangreoedd a Gymeradwywyd.
Os ydych yn ansicr a yw’ch busnes angen cael ei gymeradwyo neu ei gofrestru, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm
Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.
Pwy All Wneud Cais?
Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r cofrestru.
A oes yn rhaid i fi dalu ffi am gofrestru?
Nid oes ffi yn daladwy am y cais hwn.
Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?
Bydd eich cais yn cymryd hyd at 28 niwrnod i’w brosesu ac fe fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai’ch cais wedi ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed o at 28 niwrnod.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, ei bod yn drosedd gweithredu fel busnes bwyd heb gofrestru gyda Chyngor.
A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?
Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm Masnachol o fewn Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.
Cwyn Defnyddiwr
Cofrestr Gyhoeddus
Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm Masnachol o fewn Iechyd yr Amgylchedd i drefnu gweld y Gofrestr Gyhoeddus .
Ffurflen Gofrestru
Cliciwch yma, os gwelwch yn dda, am y Ffurflen Gofrestru gyfredol.
Wedi cyflwyno’r Ffurflen Gofrestru mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd roi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i’r amgylchiadau a nodwyd uchod (gan gynnwys cau’r busnes) i’r awdurdod bwyd o fewn 28 niwrnod i’r newid (iadau) ddigwydd.
Cyngor Ychwanegol i Weithredwyr Busnesau Bwyd Newydd
Gellir derbyn gwybodaeth bellach parthed cofrestru busnes bwyd neu ddiweddaru cofrestriad busnes bwyd cyfredol drwy gysylltu â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Mae cyngor a deunyddiau atodol i sefydlu busnes bwyd ar gael ar
Gwybodaeth Gyswllt
Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk