¹û¶³´«Ã½app

Trwydded Siop Anifeiliaid

Er mwyn rhedeg busnes sy’n gwerthu anifeiliaid anwes mae angen trwydded oddi wrth y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys pob gwerthiant masnachol o anifeiliaid anwes, gan gynnwys siopau anifeiliaid, busnesau’n gwerthu anifeiliaid dros y rhyngrwyd a chadw anifeiliaid gyda’r bwriad o’u gwerthu yn unol â natur busnes o’r fath.  

Am wybodaeth bellach ar yr hyn gaiff ei ystyried yn anifail anwes cysylltwch, os gwelwch yn dda,  ag adran Iechyd yr Amgylchedd.

Pwy all wneud cais?

Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac mae’n rhaid iddynt fod heb eu diarddel:

  • rhag cadw siop anifeiliaid dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • rhag cadw sefydliad marchogaeth dan Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970
  • rhag cael cystodaeth o anifeiliaid dan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Gwelliant) 1954
  • rhag cadw sefydliadau lletya ar gyfer anifeiliaid dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • rhag cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, bod yn gallu dylanwadu ar y modd mae anifeiliaid yn cael eu cadw, dosbarthu anifeiliaid neu drawsgludo neu â rhan mewn  trawsgludo anifeiliaid dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?

A oes yn rhaid i fi dalu ffi ymgeisio?

Oes. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar y Ffioedd a’r Prisiau.

Sut caiff fy Nghais ei brosesu?

Bydd y Cyngor yn ystyried y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid:

  • y bydd anifeiliaid bob amser yn cael eu cadw mewn llety addas parthed maint, tymheredd, goleuo, awyru a glanweithdra;
  • y cyflenwir anifeiliaid yn ddigonol â bwyd a diod addas ac yr ymwelir â hwy ar gyfnodau addas;
  • na chaiff anifeiliaid, sy’n famaliaid, eu gwerthu mewn oedran rhy gynnar;
  • y cymerir pob gofal rhesymol i atal clefydau  heintus rhag lledu ymysg yr anifeiliaid;
  • y cymerir camau priodol ar gyfer amddiffyn yr anifeiliaid rhag tân neu achos brys arall

Gellir atodi amodau wrth drwydded i sicrhau y cydymffurfir â’r ffactorau uchod.

Gellid derbyn manylion pellach ynghylch yr asesiad ar gyfer meini prawf oddi wrth adran Iechyd yr Amgylchedd.

Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Bydd eich cais yn cymryd hyd at bedwar mis i’w brosesu ac fe fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai’ch cais wedi ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed o bedwar mis.

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Cysylltwch, os gwelwch yn dda,  ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau trwydded a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo apelio i’w Lys Ynadon lleol. Gellir derbyn manylion ar hawliau apêl oddi wrth adran Iechyd yr Amgylchedd .

Gall unrhyw ddeiliaid trwydded sy’n dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth eu trwydded apelio i’w Llys Ynadon lleol. Byddem yn cynghori, fodd bynnag, eich bod yn cysylltu ag adran Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf.

Cwyn Defnyddiwr

Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB 

¹ó´Úô²Ô: 01495 369542
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk