Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (Gorchymyn Traffig Unffordd 2025) (Vale View, Tredegar)
Rhoddir hysbysiad drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn bwriadu gwneud gorchymyn o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, a phob pŵer galluogi arall, y bydd ei effaith fel a ganlyn:
• Gwahardd symudiadau cerbydau sy’n teithio I gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol – Vale View o’I chyffordd â Pochin Crescent i’w chyffordd â Theras y Glyn / Peacehaven, fel y nodir yn yr hysbysiad hwn.
Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, ynghyd â chynllun yn dangos y darn o ffordd y bydd y gorchymyn yn berthnasol iddo a datganiad o’r rhesymau. Mae’r gorchymyn drafft ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a bydd felly tan y dyddiad dod i ben, sef 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.
Os dymunwch wrthwynebu’r cynigion, bydd angen I chi anfon y sail dros wrthwynebu yn ysgrifenedig at y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, NP23 8UW, neu mewn neges e-bost at BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk Bydd rhaid derbyn y gwrthwynebiad erbyn 19Hydref 2025. Ni fydd unrhyw wrthwynebiad a ddaw I law ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael ei ystyried.
DYDDIEDIG: 20 Chwefror 2025
CLIVE ROGERS
Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol
ATOLDEN
Enw’r Ffordd
Vale View, Tredegar - o’i groesfan gyda Pochin Cres am bellter o 25.82 metr I groesfan Glyn Terrace/Peacehaven
Cyfeiriad a Ganiateir
Gorllewin - Dwyrain