¹û¶³´«Ã½app

Teithio Llesol – Blaenau Gwent

Cam Un Teithio Llesol Abertyleri i Frynmawr

Ymgynghoriad Teithio Llesol – Dweud eich dweud

Gwahoddir trigolion, busnesau a phawb sydd â diddordeb i ddweud eu dweud ar welliannau teithio llesol rhwng Bryn-mawr a Blaenau.

Ym mis Awst 2023, gofynnwyd am eich barn ar sut mae’r rhwydwaith trafnidiaeth yn y dyffryn rhwng Abertyleri a Bryn-mawr yn gweithio i’r rheini sy’n gweithio yn yr ardal, yn byw ynddi ac yn ymweld â hi.

Yn seiliedig ar yr adborth cychwynnol a dderbyniwyd, rydym wedi nodi gwelliannau cerdded a beicio posibl yn y dyffryn rhwng Abertyleri a Bryn-mawr.

Rydym nawr yn gofyn am eich barn ar y dyluniad arfaethedig ar gyfer cam cyntaf y cynllun, y bwriedir ei adeiladu yn 2026/27.

Fel y dangosir ar y map, mae gwelliannau Cam 1 ar yr A467 rhwng cylchfan Heol y Capel a Pharc y Pererinion. Mae Cam 1 hefyd yn cynnwys llwybrau cangen i Heol y Farchnad, Stryd y Frenhines (Nant-y-glo), Stryd Fawr, Blaenau, a Heol yr Orsaf.

Bydd y cynigion yn cynnwys llwybr cyd-ddefnyddio i gerddwyr a beicwyr ar ochr ddwyreiniol yr A467. Bydd croesfannau’n cael eu huwchraddio ar gylchfan Heol y Capel a chylchfan yr A467 / Heol yr Orsaf yn y drefn honno.

Bydd llwybr beicio ar wahân ar hyd ffordd fynediad Ystad Ddiwydiannol y Rising Sun hefyd yn cael ei ddarparu i wasanaethu Ysgol Gymraeg Bro Helyg a busnesau lleol o fewn yr ystad ddiwydiannol.

Bydd eich adborth yn hanfodol i’n helpu i lunio’r ffordd y caiff y cynllun ei ddatblygu.

Gweler ein cynigion:

A467 Trefniant Cyffredinol.pdf

Rising Sun Ind Est Trefniant Cyffredinol.pdf

Coal Brook Vale General Trefniant Cyffredinol.pdf

Trawstoriadau (1).pdf

Trawstoriadau (2).pdf

Rhowch eich barn drwy gwblhau’r arolwg canlynol:

Bydd copïau o’r lluniadau ac aelodau tîm y prosiect hefyd ar gael mewn arddangosfa gyhoeddus a gynhelir yng Nghanolfan Tabor, Bryn-mawr, ddydd Mercher 13 Tachwedd, rhwng 3pm a 6pm.

Cwestiynau cyffredin:

Cwestiynau Cyffredin.pdf

 

 

Yn 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) gyda’r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol dyddiol pobl, hybu llesiant a lleihau’r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byr, pwrpasol.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru annog cerdded a beicio fel y dull teithio a ffefrir ar gyfer teithiau pwrpasol o fewn pellteroedd byr.

Rhaid i awdurdodau lleol ddylunio a darparu llwybrau teithio llesol addas o fewn ac o amgylch eu haneddiadau, gan ddarparu llwybrau diogel a hygyrch i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr.

Gwyliwch ein i gael rhagor o wybodaeth am deithio llesol.

 

 

Cyswllt Gogledd/De Glyncoed

Isod mae nifer o luniau o’r gwaith a gafodd ei gwblhau ar Ddolen Gogledd/De Glyncoed. Mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y llwybr ymhellach i’r De.

Active travel        

Gwelliannau cyfredol

Eleni rydym yn gweithio ar wella’r llwybr Teithio Llesol i’r dwyrain o Ysgol Gynradd Ystruth.

Yn ystod mis Medi byddwn yn gweithio gyda Strydoedd Byw i gyflwyno eu prosiect WOW o fewn 8 ysgol gynradd ym Mlaenau Gwent, i gael mwy o wybodaeth ar y prosiect hwn ewch i

Map Data Cymru

Dilynwch y ddolen isod i Map Data Cymru sy’n dangos y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, byddwch yn gallu gweld llwybrau teithio llesol presennol ac arfaethedig.

Dolen:  

Beth yw teithiau byr, pwrpasol?

Mae taith teithio llesol yn un y gall rhywun ei chymryd ar droed neu ar feic i gyflawni tasg bob dydd, fel:

  • Cerdded neu feicio i'r ysgol
  • Cerdded neu feicio i'r gwaith
  • Cerdded neu feicio i'r orsaf drenau neu fysiau lleol i ddal y trên ar gyfer taith ymlaen
  • Cerdded neu feicio i'r siop/fferyllfa/Swyddfa Bost leol

Beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ei wneud am Deithio Llesol yn y gymuned?

Yn 2021, mae’r Cyngor wedi gweithio ochr yn ochr â Sustrans a phartneriaid eraill i ddatblygu ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol, gan gynnwys datblygu a gwella llwybrau newydd a phresennol.

Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys:

  • Parc Bryn Bach – Garnlydan
  • Canol Tref Tredegar - Gerddi Harford
  • Ysbyty Glyn Ebwy - Ysgol 3-11
  • Beaufort – Nant-y-glo
  • Brynmawr – Blaenafon
  • Six Bells – Aber-big
  • Gorsaf Llanhiledd - Royal Oak
  • Royal Oak - Swffryd-Crymlyn

 

Rydyn ni eisiau gwneud teithio llesol yn rhan arferol o fywyd bob dydd, cerdded i'r ysgol neu'r gwaith yn lle mynd â'r car, nid yn unig y mae'n iachach, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd.

Gadewch i ni wneud Blaenau Gwent yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.

Os hoffech chi gymryd rhan a helpu i ddatblygu eich rhwydwaith teithio llesol lleol, cysylltwch â Kathryn Childs - Swyddog Cefnogi Partneriaethau ac Ymgysylltu (Teithio Llesol) kathryn.childs@blaenau-gwent.gov.uk neu ewch i'r dudalen hon am ddiweddariadau yn y dyfodol.